Sgwrs:Cynghanedd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae'n siom fawr bod yr erthygl Saesneg amdano Cynghanedd o safon well nag yr un Gymreig. Yn anffodus dydy cynhendod i am barddoniaeth yn wael iawn, felly dwi methu sgwennu yr erthygl, ond ydy unrhywun yn cytuno bod e'n siom ma rhaid darllen am ein diwylliant ni, rhwbeth sy'n unigryw i'r iaith Gymreig, drwy'r Saesneg?GarethRhys 01:23, 22 Mawrth 2006 (UTC)[ateb]

Fi yw'r un sy wedi creu'r erthygl Saesneg. Hoffwn i gweithio ar y fersiwn Gymraeg ond dydy fy Nghymraeg i ddim yn rhugl. Mae'n ddrwg da fi. Marnanel 18:07, 23 Mawrth 2006 (UTC)[ateb]

Y fannod a phrif lythrennau[golygu cod]

Mae Anghenion y Gynghanedd a Cherdd Dafod ill dau yn gosod y fannod o flaen enwau'r prif fathau o gynghanedd. Hefyd, maent yn rhoi prif lythrennau i'w henwau, gan eithrio ansoddeiriau fel disgynedig. Y ffurfiau a roir yma yw Y Gynghanedd Groes ac Y Gynghanedd Draws, sydd yn fwy priodol ar gyfer teitlau'r erthyglau am y cynganeddion ar Wicipedia efallai. Credaf hefyd fod Pedwar Mesur ar Hugain yn haeddu'r fannod, gan mai The Twenty Four Measures ydyw, yn hytrach na Twenty Four Measures. Os yw pawb yn fodlon, rydw i'n ddigon bodlon i ddiwygio'r erthyglau i'w gwneud yn eithaf unffurf a chyson, ond wrth gwrs fedraf i ddim newid enwau'r erthyglau. Oes gan unrhywun wrthwynebiad? Eisingrug 00:16, 5 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Rwyt ti'n iawn, wrth gwrs, ac eto cofier ein bod yn dilyn y fath o drefn a geir mewn gwyddoniadur neu gyfeirlyfr. Mae gan Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru erthyglau fel 'Ceffyl Pren, Y', 'Cyngor Llyfrau Cymraeg, Y' a 'Cynghanedd' (gydag is-adrannau am 'Cynghanedd Draws' ayyb. Pe tasem ni'n defnyddio y fannod ymhob achos fel hyn byddai canran sylweddol o'r erthyglau yn dechrau gyda 'Y'. Mae'r un peth yn wir am y Wici mewn ieithoedd eraill fel Saesneg a Ffrangeg hefyd (osgoi "The..."/"La/Le/Les" ayyb). Yr eithriad yw teitlau pethau fel llyfrau, papurau newydd a ffilmiau. Anatiomaros 00:28, 5 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Diolch, mae'n bwynt teg. O ran yr erthygl Pedwar Mesur ar Hugain, y mae arni wir angen y fannod gan y gallasai fod yn unrhyw bedwar mesur ar hugain o dan haul, ond unwaith ceir bannod, mae'n newid yn gyfangwbl. Gwelaf fod bannod gan y teitl pan oedd yn ifanc. Un rheswm dros osod y fannod o flaen enwau'r cynganeddion yw y gall Cynghanedd groes olygu croes o gyswllt gymhleth yn ogystal, ond nid felly Y Gynghanedd Groes. Dwi'n tueddu i ochri gyda'r gwerslyfrau a'r gramadegau gan fod yr ail-gyfeirio yn cael gwared â phroblem y fannod, ond un o'r gweinyddwyr sydd â'r gair ola'! Eisingrug 00:42, 5 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Diolch am dy sylwadau. Does dim problem gyda'r ailgyfeirio, ond y pwynt yw fod cael rhestr hir o erthyglau sydd i gyd yn cychwyn gyda 'Y[r]' yn rhywbeth i'w osgoi. Fel y dwedais, dyna'r arfer ar draws y Wicipedia mawr, nid y Wici Cymraeg yn unig. Cyn belled ag y mae'r 24 Mesur yn y cwestiwn, dwi ddim yn gweld unrhyw broblem gan na fydd gennym erthygl am unrhyw "24 mesur" arall. Ond os am ei symud, beth am wneud hynny i 'Pedwar mesur ar hugain Cerdd Dafod'? Ond dwi ddim yn gweld y pwynt oni bai fod erthygl am ryw 24 mesur arall yn cael ei sgwennu, sy'n anhebygol iawn. Anatiomaros 16:41, 5 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Dolen wallus[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:41, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]