Sgwrs:Colofn o niwl

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Teitl yr ethygl[golygu cod]

Pam symud i "colofn o fwg"? "Colofn o niwl" a "colofn o gwmwl"/"colofn gwmwl" sydd yn y Beibl Cymraeg. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:56, 21 Tachwedd 2012 (UTC)[ateb]

Ti'n iawn, ond y cyfieithiad llythrennol o'r Hebraeg Amúd Anán ydy 'mwg'. Y cwestiwn wedyn ydy a ddylem ddilyn y gwreiddiol ynteu fersiwn 1620? I gymhlethu'r sefyllfa, yr hyn mae'r Israeliaid yn ei alw ydy Colofn o amddiffynfa! Gweler yr erthygl ar en. Ond efallai mai glynnu i'th awgrym di y dylem - sef yr hen fersiwn Cymraeg. Sgwn i beth ydy'r fersiwn y Beibl modern? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:06, 22 Tachwedd 2012 (UTC)[ateb]
Dwi methu darllen Hebraeg o gwbl, ond "cwmwl" yw ystyr ענן (anán) yn ôl Wiktionary. Does dim copi o'r Beibl Cymraeg Newydd gen i, ond mae beibl.net yn defnyddio "colofn o niwl". Yn ôl en (en:Operation Pillar of Defense#Etymology) Amúd Anán yw enw Hebraeg yr ymgyrch ac Operation Pillar of Defense yw'r enw Saesneg swyddogol. Mae rhai wicis eraill yn cyfieithu'r enw Hebraeg, rhai'n cyfieithu'r term Saesneg, a rhai'n defnyddio teitlau megis "Gwrthdaro Gaza–Israel 2012". Gan fod term Cymraeg safonol am yr enw Hebraeg, dwi'n credu dylem ddefnyddio "Colofn o Niwl". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 10:44, 22 Tachwedd 2012 (UTC)[ateb]
Cytuno. Diolch. Efallai y dylid cywiro en: gan mai cyfieithad nhw o'r term Hebraeg ydy "mwg". Llywelyn2000 (sgwrs) 10:51, 22 Tachwedd 2012 (UTC)[ateb]
Mae en yn defnyddio pillar of cloud, sef colofn o gwmwl. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 14:30, 26 Rhagfyr 2012 (UTC)[ateb]