Sgwrs:Coweit

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Ciwait)

Enw'r erthygl[golygu cod]

Pam dewiswyd y ffurff Coweit, sy'n llai aml o lawer yn y Gymraeg na Kuwait? Daffy 19:49, 30 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Dwi ddim yn gwybod. Dwi ddim yn hoff ohono o gwbl. Mae 'na anghysondebau mawr ar y wiki Cymraeg cyn belled ag mae enwau pobl a lleoedd yn y cwestiwn. Dwi newydd fod yn "ardduno" Affganistan efo ychydig o luniau - ond dewiswyd "Afghanistan", sef yr enw Saesneg, ar gyfer y wlad. Ac eto "Afġānistān" a geir ar y wybodlen gwlad. Dyna enwau'r pabau eto - gw. Sgwrs:Pab Joan - Cymreigio pethau i ffurfiau cwbl anghyfarwydd ac eto gadael enwau fel Alexander (Alecsandr yw'r ffurf Gymraeg arferol) a Celestine a rhoi Juliws am Julius (ffarwel Iŵl Cesar!). Ac wedyn mae gennym ni yr erchyll Gweriniaeth Pobl China ond - diolch byth - Tsieina am y wlad hanesyddol! Be sy' 'na i'w wneud? Anatiomaros 20:25, 30 Hydref 2006 (UTC)[ateb]
O.N. Diolch unwaith eto am sortio'r fflagiau - del iawn! Anatiomaros 20:27, 30 Hydref 2006 (UTC)[ateb]
Mae'n flin gen i, wnes i greu'r dudalen yma. Gwelais taw "Coweit" oedd y gair roedd Bwrdd yr Iaith yn defnyddio. Mae wir angen cael trafodaeth newydd ar enwau gwledydd nawr bod mwy o Gymry Cymraeg rhugl yma. Mae termau od megis "Gweriniaeth Pobl China" yn dod o'r Atlas Cymraeg Newydd, sydd wedi derbyn llawer o feirniadaeth am ei gynnwys. (Gwelwch Wicipedia:Sgwrs am Gwledydd y Byd a Sgwrs:Gwledydd y byd am sgyrsiau blaenorol.) —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 23:55, 30 Hydref 2006 (UTC)[ateb]
Mae'r erthygl bellach wedi ei symud yn ôl i "Coweit", yn unol â'r polisi ar enwau gwledydd. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 14:12, 7 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]