Sgwrs:Caradog ab Iestyn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Ganwyd Caradog ab Iestyn tua diwedd Canrif 11 (fl. 1130) yn fab i Iestyn ap Gwrgant.



CARADOG ab IESTYN ( fl. 1130 ), sylfaenydd teulu ‘Avene’ ym Morgannwg . Mab Iestyn ap Gwrgant . Gŵyr haneswyr amdano am fod dau gyfeiriad ato yn ‘ Llyfr Llandaf .’ Yn y cyntaf enwir ef ymysg y gwŷr lleyg mewn siarter sydd yn tystio i Caradog ap Gruffydd (bu f. 1081 ) roddi tir yn Edlygion i'r esgob Herwald ; yn yr ail disgrifir ef yn bennaeth a chanddo lu rhyfel y gwnaeth ef iawn i'r unrhyw esgob oblegid drwgweithredoedd y llu hwn gan roddi iddo faenor yn nyffryn afon Elai . Ymddengys, felly, i Iestyn , ar ôl marw Caradog , esgyn o ddinodedd a dyfod yn arglwydd Morgannwg ac mai efe ydoedd y tywysog a fwriwyd allan gan y Normaniaid pan ymosodasant ar yr ardal tua'r flwyddyn 1090 . Rhaid, fodd bynnag, wrthod derbyn adroddiad manwl y gorchfygu a geir gan David Powell yn ei Historie ( 1584 ), gan na cheir tystiolaeth yn unman arall yn ei ategu.

Nid oes ond un cyfeiriad cyfoes at Garadog ; gyda'i frodyr Gruffydd a Goronwy bu iddo ran a chyfran yn 1127 mewn gweithred drahaus na wyddys ddim yn sicr am yr amgylchiadau y cyflawnwyd hi ynddynt. Eithr y mae'n gwbl sicr iddo, ar ôl i lywodraeth Iestyn gwympo, dderbyn gan Robert Fitz Hamon y wlad rhwng Nedd ac Afan (ac, efallai, fwy na hynny) fel daliad isradd, ac i'w olynwyr gadw'r daliad hwn am amryw genedlaethau.

Trwy ei wraig, Gwladus , ferch Gruffydd ap Rhys , bu iddo bedwar mab — Morgan , Maredudd , Owain , a Cadwallon ; dilynwyd ef yn Aberafan gan Morgan . Ffynonellau:

J. E. Lloyd, A History of Wales , 402, 440, 504, 572.