Sgwrs:Cadwynfyr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Diolch, Lywelyn, am dy hen bennill rhwydd a naturiol. Yn anffodus, nid yw'r pennill yn "gadwynfyr" yn ôl diffiniad Dafydd ab Edmwnd, sef unig ddiffiniad yr erthygl hyd yn hyn. Y rheswm am hynny yw nad yw "caseg winau" yn ffurfio cynghanedd ei hun. Efallai bod diffiniad arall o gadwynfyr cyn i Ddafydd ab Edmwnd ei gaethiwo i wahaniaethu rhwng y glêr a'r beirdd graddedig - os oes; y mae'n werth sôn am hynny gan ei fod yn bennill hoffus dros ben. Diolch eto, Eisingrug 21:53, 27 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]