Sgwrs:Brenhinoedd a breninesau gwledydd Prydain

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Sorri! I was trying to put these "right" yesterday, and was unable to finish the job. Deb 16:49, 8 Ebr 2004 (UTC)

Peidiwch a phoeni! :) Arwel 17:10, 8 Ebr 2004 (UTC)


Brenhinoedd yw'r lluosog arferol am brenin. All rhywun ei newid os gwelwch yn dda

----

Y Deyrnas Ddychmygol?[golygu cod]

Sut all brenhinoedd cynnar Lloegr a'r Alban fod yn "frenhinoedd y Deyrnas Unedig"? Doedd 'na ddim Teyrnas Unedig yn bodoli cyn 1801! Cyn hynny roedd 'na frenhinoedd a brenhinesau'r Alban a Lloegr (a "Prydain Fawr" am gyfnod byr). Roedd gan Gymru ei brenhinoedd hefyd yn y cyfnod cynnar; pam nad ydyn nhw ar y dudalen? Yn fy marn i mae'r erthygl hon yn adlewyrchu'r meddylfryd Seisnig yn hytrach na'r realiti hanesyddol. Beth am ei newid? Anatiomaros 21:20, 21 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Cytuno. Dylid ei rhannu'n bump (neu fwy) o dudalennau. Daffy 20:17, 22 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Dwi wedi copio deunydd i greu dwy dalen newydd, Brenhinoedd a Brenhinesau Lloegr a Brenhinoedd a Brenhinesau'r Alban, gyda rhestr 'Yr Alban a Lloegr' yn atodiad iddynt. Beth i'w wneud efo'r lleill? Prydain Fawr ar wahân a'r DU hefyd? Cadw'r dudalen bresennol ar gyfer y DU yn unig? Oes gan rywun arall farn ar hyn? Anatiomaros 20:55, 22 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

I'd hate to suggest that the English equivalents are a good example, but a quick look might give you some ideas on how you want to proceed. Deb 21:27, 22 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Breninesau[golygu cod]

Onid breninesau (dim 'h') yw lluosog brenhines? D22 22:27, 22 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Rwyt ti'n iawn wrth gwrs - symud y rhestrau heb aros i ystyried wnes i! Wna i newid nhw rwan (heblaw'r dudalen yma gan nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto...). Diolch. Anatiomaros 22:47, 22 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]