Sgwrs:Baban dethol

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Oes angen y "D" fawr? Anatiomaros 22:58, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Nac oes. Alan 23:06, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Dyna roeddwn i'n feddwl hefyd, jest trio bod yn boleit a gofyn un o fy "nghwestiynau rhethregol" enwog (chwedl Alan!) cyn ei symud. Anatiomaros 23:08, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Gwyddwn i hynny. Ond does dim problem gydag ateb cwestiwn rhethregol, on'd oes? Alan 13:02, 28 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Dim o gwbl. :-) Anatiomaros 16:23, 28 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Bathiad newydd[golygu cod]

Mae 'Babi dylunydd' yn eiriadurol o sych! Beth am air newydd sbon... mwy naturiol? e.e. Babi gwneud. Llywelyn2000 00:26, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Mae'n swnio'r well na Babi dylunydd (sydd ond yn golygu 'Designer's baby' i fi), ond eto ddim cweit yn taro deuddeg, mae'n swnio wedyn fel 'fake baby' i fi? Siawns bod y peth wedi cael ei grybwyll ar Newyddion S4C neu Radio Cymru, ond allai'n dod o hyd i ddim ar y we.--Ben Bore 08:52, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Na, ddim cweit yn tarod deuddeg, Ben. Opsiwn arall ydy Cymreigio'r ynganiad Saesneg fel y gwnaed gyda'r gair (newydd) 'fish fingers' ers talwm, gan fathu (yn gwbwl naturiol, heb run cyfryngi yn y llun!) y gair Cymraeg newydd: Shingars neu shingar bysgod - a ddefnyddiwyd am flynyddoedd gan bobol Pen Llyn. O ddilyn yr un patrwm efallai y byddai 'Babi wedi ei rag-ddylunio' yn troi yn 'Barag'! Rhaid bathu rhywbeth gwell na 'Babi dylunydd', beth bynnag! 'Babi wedi'i ddylunio'? Babi mangl - am fod ei enynnau wedi mynd drwy'r felin ac yn ôl! Llywelyn2000 09:31, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Mae'r teitl yn dal i fy nghorddi. Tydy e ddim yn gorwedd yn daclus o gwbwl. Ga i ei newid i "Babi wedi'i ddylunio"? Mae'n fwy triw i deithi'r iaith, er ychydig yn fwy clogyrnaidd ar yr olwg cyntaf. Neu - dewch â bathiad gwell. Llywelyn2000 16:33, 19 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
[1] Alan 19:11, 19 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Diolch i ti am ffeindio hyn, Alan. Roeddwn i'n methu deall am funud be oedd ystyr "babanod dethal" (!), ond dwi'n gweld mai 'babanod dethol'/'baban dethol' yw'r term. Mae'n swnio'n iawn i mi, er nad yn berffaith chwaith; ond os ydyw'n cael ei ddefnyddio gan yr awdurdodau addysg pwy ydym ni i'w wrthod? Gwell na 'babi dylunydd' beth bynnag! Anatiomaros 20:12, 19 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Clywch! Clywch Anatiomaros. Da iawn Alan! Ymlaen! Llywelyn2000 23:07, 19 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ia, ymlaen â ni, Llywelyn! Dwi wedi symud yr erthygl. O leia mae'n derm "swyddogol" (o ran hynny, mae 'baban' yn dipyn mwy safonol na 'babi' hefyd...). Anatiomaros 23:35, 19 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Gwych. Llywelyn2000 23:40, 19 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]