Sgwrs:An Lysardh

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

@AlwynapHuw: Dwi'n parchu eich barn chi ynghlŷn â statws Cernyw. Does dim agenda wleidyddol 'da fi, a dwi ddim eisiau cynhyrfu neb. Dim ond ceisio gwneud pethau'n gyson ar draws erthyglau a gwneud iddyn nhw ymuno â'i gilydd oeddwn i. Ond dwi'n siomedig ichi ddileu'r cysylltiad â'r erthygl "Prydain Fawr". Dylai hyn fod yn derm daearyddol yn unig (yn wahanol i "Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon") ac mae'r erthygl honno fel y mae ar hyn o bryd yn gwneud hynny'n glir. Felly beth hoffwn i'n ei wneud yw cadw'r ymadrodd "tir mawr Prydain" a chysylltu â "Prydain Fawr" ar y gair "Prydain". Fyddai hynny'n iawn? --Craigysgafn (sgwrs) 14:47, 25 Hydref 2019 (UTC)[ateb]