Sgwrs:Amrodor

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae 'amrodor' yn fy nharo fel gair trwsgl iawn. Cymeraf mai bathiad newydd gan grewr y dudalen yw e. Ar ba awdurdod yr ydym yn derbyn 'amrodor'? Os taw gair cyfansawdd yw e gydag 'aml' fel yr elfen gyntaf, pam hepgorir yr 'l'? Mae geiriau eraill a ddefnydd 'aml' yn ei gadw. Pam yr anghysondeb, felly? Oni fyddai 'amlrodor' neu 'aml-rodor' yn fwy cyson? Pan welais enw'r erthygl gyntaf, allwn i ddim gweld mai gair a ffurfiwyd o 'aml' a 'rodor' yw e.