Sgwrs:AS Roma
Gwedd
AS Roma
[golygu cod]@Lloyd Jones Cymru: awgrymaf newid teitl yr erthygl i AS Roma, sef yr enw yn yr iaith frodorol. Dyma a wneir gyda Manchester United F.C. ayb. Felly hefyd gyda Stade de France a newidiwyd i Stadiwm Ffrainc h.y. yr enw / teitl sydd ei angen ac nid disgrifiad. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:18, 4 Ionawr 2025 (UTC)
- Gelwir y ddinas Roma yn Rhufain yn Gymraeg. Byddwn yn gwrthwynebu eich dadl gyda C.P.D. Lerpwl (Liverpool) a Stadiwm Emirates (Emirates Stadium), a.y.b. Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 19:47, 4 Ionawr 2025 (UTC)
- @Lloyd Jones Cymru: Mae'n ddrwg gen i. Dyw "AS Rhufain" ddim yn gwneud synnwyr. "AS Roma" = "Associazione Sportiva Roma", sef "Cymdeithas Chwaraeon Rhufain". Ddylem ni gyfieithu dim ond hanner yr enw. Mae "CC Rhufain" yn amhosibl, felly rhaid i ni ddefnyddio "AS Roma". Does dim angen inni ddyfeisio termau Cymraeg ar gyfer pob sefydliad tramor! Diolch am dy waith da! Hwyl! Craigysgafn (sgwrs) 20:05, 4 Ionawr 2025 (UTC)
- Felly mae Lerpwl yn iawn ond nid yw Rhufain?
- Dwi'n gwybod fod holl sylw'r Uwch Gynghrair yn Gymraeg yn defnyddio'r gair Lerpwl ond pe bai sylw Cymraeg i Gynghrair y Pencampwyr pa enwau fydden nhw'n defnyddio? A fyddai gan AS Roma ddau enw tebyg i Leicester City/Caerlŷr?
- Ar gyfer y cofnod, yn Ffrangeg, gelwir AS Roma yn AS Rome. Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 20:10, 4 Ionawr 2025 (UTC)
- @Lloyd Jones Cymru: @Llywelyn2000: Dylem ni wneud beth bynnag sy'n achosi'r dryswch lleiaf. Ydy sylwebwyr a chefnogwyr chwaraeon yng Nghymru yn dweud "AS Rhufain" o ddifrif? Oni bai mai dyma'r enw y mae Cymry yn ei ddefnyddio'n rheolaidd, dylem ni gadw'r enw a ddewisodd y clwb iddo'i hun.
- Sylwer: (1) "C.P.D. Lerpwl" = "F. C. Liverpool" h.y. mae'r blaenhythyren yn cael eu cyfieithu hefyd. (2) Er gwaethaf yr hyn y mae WD yn Ffrengig yn ei ddweud, "Associazione Sportiva Roma" yw teitl yr erthygl ar frwiki. Craigysgafn (sgwrs) 21:52, 4 Ionawr 2025 (UTC)
- Rwy'n meddwl efallai y dylem enwi'r erthygl AS Roma ond dim ond defnyddio'r enw hwnnw mewn rhai cyd-destunau. Mewn cyd-destunau pêl-droed gallwn ddweud Rhufain yn lle Roma (e.e. "Mae Rhufain yng Nghynghrair Europa").
- Mae clybiau pêl-droed Eidalaidd yn anodd oherwydd yn Saesneg am ryw reswm nid yw llawer o glybiau'n defnyddio eu henw Saesneg llythrennol (Napoli). Gelwir AC Milan yn AC Milan yn Eidaleg (nid Milano) a gelwir Genoa yn Genoa nid Genova yn Eidaleg oherwydd iddynt gael eu sefydlu gan Saeson, tra bod Inter Milan yn llysenw yn unig ac mae Eidalwyr yn dweud Inter. Ond yn Ffrangeg, Napoli ydyw (Milan = Milan yn Ffrangeg), ac yn Almaeneg Neapel ydyw (Milan = Mailand yn Almaeneg).
- Beth ddylem ni ei wneud? A ddylem ni wneud fel y mae'r Saeson yn ei wneud a'i alw'n Napoli ar gyfer y clwb pêl-droed a Napoli ar gyfer y ddinas neu a ddylem ddefnyddio Napoli ar gyfer y ddau? Rwy'n dweud bod yr olaf yn gwneud mwy o synnwyr.
- O ran bathu termau, rhaid cofio bod y Wicipedia Cymraeg yn boblogaidd felly yn y bôn dyma ganolfan newydd safoni'r Gymraeg (unigryw i'r mwyafrif o ieithoedd). Mae sylwebaeth pêl-droed yn Gymraeg ar gyfer cynghreiriau Cymru neu Loegr yn bennaf a phe na bai am Lerpwl byddai Cynghrair y Pencampwyr yn amherthnasol yng Nghymru. Lloyd Jones Cymru (sgwrs) 00:04, 5 Ionawr 2025 (UTC)
- @Lloyd Jones Cymru: Mae'n ddrwg gen i. Dyw "AS Rhufain" ddim yn gwneud synnwyr. "AS Roma" = "Associazione Sportiva Roma", sef "Cymdeithas Chwaraeon Rhufain". Ddylem ni gyfieithu dim ond hanner yr enw. Mae "CC Rhufain" yn amhosibl, felly rhaid i ni ddefnyddio "AS Roma". Does dim angen inni ddyfeisio termau Cymraeg ar gyfer pob sefydliad tramor! Diolch am dy waith da! Hwyl! Craigysgafn (sgwrs) 20:05, 4 Ionawr 2025 (UTC)