Sgwrs:-3

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Oes na bwynt i beth fel hyn? Yn sicr dylai rhywun ddim creu erthyglac ar yr un rhoi rhybudd iddo'i hun y dylid ei dileu!! Mae'r erthygl o'r enw 3 yn cyfeirio at amser, ond gall fod yn dri pryf genwair (hy rhifolyn). Llywelyn2000 (sgwrs) 22:05, 20 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]

Gan fod y gyfres o erthyglau od wedi dod a chyfanswm yr erthyglau i yn union 70,000, rwy’n amau mae dyna oedd eu bwriad AlwynapHuw (sgwrs) 22:46, 20 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]
Dw i'n meddwl dy fod yn llygad dy le! Ydy'r person yma'n mynd i sgwennu am bod rhifolyn? Edrych ymlaen yn arw at ddarllen ei erthygl ar 3844532. Y broblem iddo fydd - pa ddelwedd a chyfeiriadeth i'w defnyddio! Os eu cyfrif fel dyddiadau (fel en) yn gwych - cyn belled a bod cynnwys buddiol ar y dudalen. Fel arall, eu dileu? Dydy'r erthyglau ar minws (e.e. -2) ddim yn ddyddiadau, felly dileu y rheiny, dw i'n awgrymu? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:54, 21 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]
Ond gallwn barhau a'r gyfres hyd at mae 5,999,999 yn rhifolyn rhwng 5,999,998 a 6,000,000 a dod yn uwch na'r Saesneg yn nhabl nifer yr erthyglau! Sy'n codi'r cwestiwn parhaus; be mae Wici Cymru eisiau rhif neu sylwedd? A mae na dudalenau yn y fain am rhifolion gellaswn eu creu yn y Gymraeg ee 13 13 (number)] AlwynapHuw (sgwrs) 02:38, 22 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]
Hehe. Mae Un deg tri ar gael! Rhif neu sylwedd - sylwedd! Mae'n gas gen i'r egin un/dwy frawddeg sy'n dal i gael eu sgwennu - er prin ydyn nhw'r dyddiau yma, diolch byth. O ran y Gymraeg - erthyglau defnyddiol i bobl ifanc ydy fy mlaenoriaeth i, ond (hefyd o ran y Gymraeg) mae nifer yr erthyglau'n cael ei fonitro gan Google, fel cerrig milltir - hyn sy'n penderfynnu a ydyn nhw am wario rhagor, sawl prosiect gaiff ei gyfieithu i'r Gymraeg ayb. Datgelwyd hyn i Leighton Andrews a Llywodraeth Cymru tua 3 mlynedd yn ol. Mae 'dyfnder' erthyglau'n cael eu monitro ac mae'r ystadegau ar gael ar Meta - dos i Gymru, edrych ar y golofn olaf - 55, sy'n eithriadol o uchel. Galiseg: 23; Euskara: 20; Catalan: 31; Iseldireg (5ed mwyaf!): 12; Llydaweg: 15. Mae Gwyn wrthi'n casglu gwybodaeth am adar (byw), gyda Chymdeithas Edward Llwyd, ac mae ganddo dros 8 mil ar y ffordd, gydag enwau Cymraeg. Mae o a finna'n trio datblygu'r gronfa ddata i gynnwys manylion fel maint yr aderyn a lled yr adenydd er mwyn cynnwys cymaint fedrwn o wybodaeth. Bydd y rhain tipyn mwy na dwy neu dair brawddeg! Balans ydy'r gair, dw i'n meddwl - a cheisio rhif a sylwedd! Ond ble wedyn? Mae'r hyn tin ei greu'n llenwi bwlch enfawr yn Wici, oherwydd yr ogwydd Gymreig. Dw i newydd greu erthygl ar gar trydan, heb ddiawch o ddim Cymreig amdano, gan ei fod yn gyfoes, yn apelio at bobl ifanc ayb. Cydbwysedd! Efallai mai'r man y dylem ni i gyd ganolbwyntio arno ydy Wicipedia:Merched a anwyd yng Nghymru, er tegwch i'r Gymraes, a rhesymeg! Cwestiwn da a phwysig gen ti - sori am fwydro mor hir! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:19, 22 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]