Sgwrs:Đồng Hới

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ffonetig i bwy?[golygu cod]

Oes angen y ffurf "Đồng Hới"? "Dong Hoi" sy gan y mwyafrif o'r wicipediau eraill. Yn fy marn i dydi'r llythrennau yma ddim yn cynrychioli unrhywbeth o gwbl i'r darllenydd cyffredin, 'mond yn ei ddrysu. A Maes Awyr Dong Hoi yw enw'r erthygl am y maes awyr hefyd, felly mae angen cysoni hyn y naill ffordd neu'r llall. Anatiomaros 17:04, 3 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Wel, "Đồng Hới" fasem ni'n ei ddeud acw dros frecwast. :) Dim barn bendant Anatiomaros, mae be ti'n ei ddweud yn gneud sens. Llywelyn2000 21:30, 3 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
A deud y gwir, dwi'n meddwl fod o'n edrych yn hyll hefyd. Mae ganddyn nhw eu gwyddor eu hunain yn Fiet Nam, wrth gwrs, ond mewn llythrennau dwyreiniol arbennig, dim byd tebyg i hyn. Ymgais i gynrychioli'r wyddor hynny ydy hyn, ond dydi o 'mond yn gwneud synnwyr os ydych yn deall y llythrennau yn y lle cyntaf. Basa neb yn meddwl am sgwennu Hanoi gyda'r llythrennau rhyfedd 'ma, siawns gen i? Rhaid cael cysondeb, beth bynnag (hyn ac enw'r maes awyr). Anatiomaros 22:15, 3 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]