Neidio i'r cynnwys

Sgwaryn

Oddi ar Wicipedia
Sgwaryn
Mathofferyn arlunio technegol, sgwaryn, offeryn llaw Edit this on Wikidata
Deunyddpren, plastig, haearn Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/06kh3v edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Teclyn ar ffurf triongl ag un ongl sgwâr a ddefnyddir i dynnu onglau sgwâr yn fanwl gywir yw sgwaryn. Fel arfer, ceir sgwarynnau mewn dwy ffurf, un gydag onglau 90°-45°-45°, a'r llall gydag onglau 30°-60°-90°. Yn ei ffurf symlaf mae sgwâryn yn ddarn o blastig, pren neu fetel gyda'r canol wedi'i dorri i ffwrdd a'r ymylon allanol yn beflog. Yn aml mae'n cynnwys marciau pren mesur ac weithiau marciau onglydd.