Neidio i'r cynnwys

Sgrech-bioden y De

Oddi ar Wicipedia
Sgrech-bioden y De
Dendrocitta leucogastra

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Corvidae
Genws: Dendrocitta[*]
Rhywogaeth: Dendrocitta leucogastra
Enw deuenwol
Dendrocitta leucogastra
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Sgrech-bioden y De (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: sgrech-biod y De) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Dendrocitta leucogastra; yr enw Saesneg arno yw Southern tree pie. Mae'n perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn D. leucogastra, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Galwad Sgrech-bioden y De; recordiwyd yn Wayanad

Maent yn rhannu eu cynefin yn aml gyda'r Sgrech-bioden yr India ond mae'n ddigon hawdd gwahaniaethu rhyngddyn nhw oherwydd pen a chorff gwyn Sgrech-bioden y De. Pan mae'n galw, mae ei adenydd yn gostwng ychydig. Yn aml, gwelir sawl aderyn yn dod at ei gilydd ar un goeden, gan alw dro ar ôl tro am gymar (rhwng Ebrill a Mai fel arfer).

Wedi paru, gwnant nyth allan o frigau ar goeden o faint gyffredin. Ynddo mae'r iâr yn dodwy tri wy fel arefr, a'r rheiny'n llwyd gyda smotiau gwyrdd.

Mae'r sgrech-bioden y De yn perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Brân Dyddyn Corvus corone
Brân Lwyd Corvus cornix
Brân bigfain Corvus enca
Brân jyngl Corvus macrorhynchos
Cigfran Corvus corax
Cigfran bigbraff Corvus crassirostris
Sgrech Steller Cyanocitta stelleri
Sgrech las Cyanocitta cristata
Ydfran Corvus frugilegus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Safonwyd yr enw Sgrech-bioden y De gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.