Senna

Oddi ar Wicipedia
Senna
Enghraifft o'r canlynolgroup of chemical entities Edit this on Wikidata
Mathglycoside Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae senna glycosid, a elwir hefyd yn sennoside neu senna, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin rhwymedd ac i wagio'r coluddyn mawr cyn llawdriniaeth. Gellir gweini'r feddyginiaeth drwy'r genau neu drwy'r rectwm. Yn nodweddiadol mae'n dechrau gweithio mewn munudau o'i weini trwy'r rectwm ac o fewn deuddeg awr o'i weini trwy'r genau.[1] Mae'n garthydd gwannach na bisacodyl neu olew castor.

Sgil effeithiau[golygu | golygu cod]

Mae sgil effeithiau cyffredin senna yn cynnwys crampiau'r abdomen. Nid yw'n cael ei argymell ar gyfer defnydd hirdymor, gan y gallai arwain at broblemau efo gallu'r coluddyn i weithio'n iawn neu broblemau electrolyt[2] Er nad oes dystiolaeth benodol ei fod yn niweidiol wrth fwydo ar y fron, nid yw'n cael ei argymell fel rheol. Nid yw'n cael ei argymell at ddefnydd plant. Gall Senna newid lliw'r wrin yn goch.

Mecanwaith[golygu | golygu cod]

Mae deilliadau Senna yn fath o garthydd ysgogol. Er nad yw ei fecanwaith yn gwbl glir, credir bod senna'n gweithredu trwy gynyddu chwarenlif hylif o fewn y coluddyn mawr[3].

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae Senna ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig ac mae'n gymharol rad. Daw Sennosidiau o'r grŵp o blanhigion Senna. Ar ffurf planhigyn, mae cofnodion o ddefnydd senna fel carthydd yn dyddio o tua 900 AD, ond mae'n debyg bod ei ddefnydd yn llawer hyn[4].

Argaledd[golygu | golygu cod]

Mae Senna ar gael dros y cownter mewn siopau ac archfarchnadoedd cyffredin. Mae a'r gael mewn nifer o ffurf gan gynnwys ffurfia trwy'r genau (hylif, tabledi, gronynnau) a thawddgyffur pen ôl. Mae cynhyrchion Senna yn cael eu cynhyrchu gan wneuthurwyr cyffuriau generig lluosog ac o dan wahanol enwau brand. Mae enwau brand yn cynnwys:

  • Ex-Lax Maximum Strength
  • Ex-Lax
  • Geri-kot
  • GoodSense Senna Laxative
  • Natural Senna Laxative
  • Perdiem Overnight Relief
  • Senexon
  • Senna Lax
  • Senna Laxative
  • Senna Maximum Strength
  • Pursennid
  • Senna Smooth
  • Senna-Gen
  • Senna-GRX
  • Senna-Lax
  • Senna-Tabs
  • Senna-Time
  • SennaCon
  • Senno
  • Senokot To Go
  • Senokot XTRA
  • Senokot
  • Kayam churna

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. NHS UK Senna Archifwyd 2018-02-18 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 10 Mawrth 2018
  2. Drugs.Com Senna adalwyd 10 Mawrth 2018
  3. NICE/BNF Senna adalwyd 10 Mawrth 2018
  4. Clover Leaff Ffarm Herbs Senna adalwyd 10 Mawrth 2018


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!