Seisyll ap Dyfnwal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Arglwydd Gwent Uwchcoed (Gwent Uchaf) yn y 12g oedd Seisyll ap Dyfnwal.

Teulu ac ystadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Seisyll yn fab i Dyfnwal ap Caradog ap Ynyr Fychan a'i wraig, a ddywedir i fod yn Joyce ferch Hamelin de Balun. Roedd yn frawd-yng-nghyfraith i Rhys ap Gruffudd, yr Arglwydd Rhys, Tywysog y Deheubarth.

Roedd yn dal tiroedd yn y Sir Fynwy bresennol, oedd yn rhan o'r hen Deyrnas Gwent ar y pryd, a'i brif bencadlys oedd Castell Arnallt, safle gaerog arddull mwnt a beili wedi ei leoli ger yr Afon Wysg ychydig filltiroedd i'r de o'r Fenni, ger Llanofer fodern. Heddiw dim ond twmpath mewn cae ger yr afon sydd ar ôl.[1]

Cyflafan y Nadolig[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Seisyll ap Dyfnwal yn fwyaf adnabyddus am ei farwolaeth mewn cynllwyn gan y Barwn Normanaidd, William de Braose, 3ydd Arglwydd Bramber, a drefnodd i'w lofruddio mewn gwaed oer ar Ddydd Nadolig (neu yn agos ati) yn 1175 yng Nghastell y Fenni.

Gwahoddwyd Seisyll, ynghyd â holl dywysogion eraill Cymru, ac arweinwyr o blith yr ardal, i Gastell y Fenni adeg y Nadolig gan William De Braose gyda'r ddealltwriaeth y byddant yn gallu trafod eu cwynion, goresgyn eu gwahaniaethau a chynllunio cyfnod o heddwch cymharol yn dilyn cyfnod o wrthdaro. Gwnaeth rhai arweinwyr Cymreig beidio mynd, oherwydd nad oeddent yn llwyr ymddiried yn de Braose. Roedd Seisyll yn bresennol ynghyd â'i fab hynaf Sieffre. Fe ymunodd rhan fwyaf o'r arweinwyr eraill gydag e, yn hyderus o'r bwriad heddychlon, gan ildio eu harfau cyn mynd mewn i'r castell. Unwaith yr oeddent du fewn i'r waliau ymosodwyd arnyn nhw yn ddidrugaredd gan ddynion arfog.

Yna aeth De Braose a'i ddynion ar geffylau, a charlamu ychydig filltiroedd i gartref Seisyll lle daliwyd a llofruddiwyd ei fab ieuengaf, Cadwaladr, bachgen saith mlwydd oed. Daliwyd ei wraig hefyd, ond nid yw ei ffawd hi'n sicr.

Roedd gweithred De Braose yn dial am farwolaeth ei ewythr Henry FitzMiles, a laddwyd gan y Cymry yn gynharach yn y flwyddyn. Roedd yr union lofrudd yn anhysbys yn ôl y sôn ond mae'n debyg mai Seisyll oedd dan amheuaeth. Strategaeth De Braose oedd cael gwared ar yr holl rai a allai fod wedi cyflawni'r lladdiad ac fe gafodd wared ar arweinyddiaeth brofiadol y grymoedd Cymreig yn yr ardal, ansefydlogi y rhanbarth ac achub ar y cyfle i'w trechu.

Effaith hyn i gyd oedd hollti'r berthynas Eingl-Gymreig am genedlaethau.

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth enw teuluol de Braose yn gysylltiedig â thriniaeth waradwyddus ac o'r pwynt yma ymlaen roedd disgynyddion de Braose yn wynebu casineb, ofn a gelyniaeth. Enillodd De Braose ei hun y llysenw 'Bwgan y Fenni' am ei ymddygiad a'r dial a ddilynodd ar deuluoedd ei elynion. Ymddialwyd am farwolaeth Seisyll yn 1182 gan Hywel ap Iorwerth, arglwydd Cymraeg Caerllion, mewn ymgyrch lle lladdwyd siryf Henffordd ac ymosodwyd ar gastell y Fenni. Yn ddiweddarach, syrthiodd mab ac etifedd De Braose o ffafriaeth frenhinol, gan farw yn alltud, ac mae'n bosib llwgodd ei wraig a'i mab i farwolaeth, tra'n garcharor yng Nghastell Windsor ac yng Nghastell Corfe yn 1210.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Phyl Brake (1 Hydref 2011). Seisyll ap Dyfnwal – gwladgarwr a merthyr. Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2017.