Seinyddiaeth y Saesneg
Gwedd
Nid oes rheolau 100% o ynganu'r Saesneg; mae'n rhaid i chi ddysgu pob gair. Ond yn gyffredinol, dyma sut mae ynganu llythyrau. Mae nifer o lythyrau yn debyg i'r rhai a geir yn y Gymraeg, ond dyma'r eithriadau a llythyrau ychwanegol.
(Allwedd, italig = Saesneg, heb italig = Cymraeg)
- c - cyn e neu i - fel s
- ch - fel ts
- dd - fel d
- f - fel ff
- g - cyn e neu i - fel j
- k - fel c
- ll - fel l
- qu - fel cw
- sh - fel si yn siop
- th - mae e'n gallu bod fel dd neu th
- u - fel y
- v - fel f
- w - cytsain
- x - cs
- y - cytsain (arferol)
- z - dydy e ddim yn bodoli yn Cymraeg, tipyn fel s
- ai / ay - ei
- au / aw - ô
- ee / ei / ey - î
- ie - î neu ai
- oo - w neu ŵ
- ou - aw neu ŵ
- ow - aw