Neidio i'r cynnwys

Seintiau sy'n gysylltiedig â'r Hen Ogledd

Oddi ar Wicipedia
Map of Yr. Hen Ogledd (The Old North), circa 550 to circa 650
Map o'r Hen Ogledd

Dyma rhestr o seintiau o'r Hen Ogledd, y deyrnasoedd Prydeinig: Elmet, Rheged, Gododdin, Manaw, Lleuddiniawn ac Ystrad Clud.

Cynderyn

[golygu | golygu cod]
Amgueddfa Bywyd a Chelf Grefyddol St Mungo

Roedd Sant Cynderyn neu Mungo (518-614) yn fab i Taneu, Tywysoges y Gododdin. Bu farw Cynderyn yn 612-614. Daeth Taneu yn feichiog ar ôl cael ei threisio gan Owain mab Urien. Yn Ystrad Clud, lledaenodd Sant Cynderyn gristnogaeth i'r Alban. Ef yw nawddsant Glasgow, a chysegrwyd y "St Mungo Museum of Religious Life and Art" yn ei enw.[1].

Roedd Denyw yn fam i Cynderyn ac yn dywysoges o'r 6ed ganrif. Ganed Denyw yn Gododdin yn yr Hen Ogledd. Ar ôl ei thaflu o Traprain Law, yn Lleuddiniawn (Lothian), mae Denyw yn teithio i Culross, lle rhoddodd enedigaeth i Cynderyn.

Padrig

[golygu | golygu cod]
Prif: Padrig

Daeth Sant Padrig (385- 461) o'r Hen Ogledd yn wreiddiol yn y 5g. Yn ôl un chwedl, pan oedd Padrig yn 16 oed, cipiwyd ef gan fôr-ladron. Aeth y môr-ladron â Padrig i'r Irweddon. Ar ôl llawer o amser dychwelodd i Gymru lle ordeiniwyd ef. Dychwelodd drachefni i Irweddon a chyflawnodd wyrthiau fel gwaredu nadroedd o'r ynys.[2].

Roedd Ke yn sant o'r 5ed ganrif. Dywedir bod Ke yn fab i'r Brenin Leuddun o Lleuddiniawn ac yn esgob yn yr Hen Ogledd cyn teithio i Gymru, Cernyw a Llydaw. Edmygir ef yn y lleoedd hyn[3]. Mae Eglwys Sant Ke o'r 17eg ganrif yn Saint-Ke-Perroz, Llydaw [4].

Eglwys Sant Ke yn Sant-Ke-Perroz, Llydaw.

Oswallt a Sant Cwthbert

[golygu | golygu cod]
Prif: Oswallt a Cwthbert
Eglwys Sant Oswallt, Oswaldkirk
Daw'r saint yn wreiddiol o'r hyn a elwir heddiw'n Lloegr, ond mae enwau Cymraeg neu Gymbrieg (yr iaith a siaradwyd cyn y Gymraeg) ar yr ardal. Mae'n bosib bod rhai pobl o'r Hen Ogledd wedi addoli Oswallt a Cwthbert. Fe'u cofnodir mewn testunau Hen Gymraeg gyda 'gos-' o flaen eu henwau, fel Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Du Gaerfyrddin.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Bromwich, Rachel (2006). Trioedd Ynys Prydein. University of Wales Press. t. 230.
  2. O'Raifeartaigh, Tarlach (2021). Saint Patrick (yn Saesneg/English). Encyclopedia Britannica.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. "Llyfrgell Genedlaethol Cymru - National Library of Wales : Beunans Ke". web.archive.org. 2012-09-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-22. Cyrchwyd 2025-01-30.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  4. "Eglise paroissiale - Saint-Quay-Perros". Office de Tourisme de la Côte de Granit Rose (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2025-01-30.