Sei Shōnagon

Oddi ar Wicipedia
Sei Shōnagon
Ganwyd966 Edit this on Wikidata
Heian-kyō Edit this on Wikidata
Bu farw1025 Edit this on Wikidata
Kyoto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Galwedigaethboneddiges breswyl, bardd, awdur ysgrifau, dyddiadurwr, ysgrifennwr, hanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Fujiwara no Teishi Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Pillow Book, Sei Shonagon-shu Edit this on Wikidata
TadKiyohara no Motosuke Edit this on Wikidata
PriodTachibana no Norimitsu, Fujiwara no Muneyo Edit this on Wikidata
PlantTachibana no Norinaga, Jōtōmoninkomanomyōbu Edit this on Wikidata

Llenores Siapaneaidd oedd Sei Shōnagon (blodeuai ar ddiwedd y 10g a dechrau'r 11eg). Mae hi'n enwog am ei llyfr Makura no Sōshi ("Llyfr Erchwyn y Gwely" / The Pillow Book) a adnebyddir fel un o glasuron mawr llenyddiaeth Siapan.

Ei bywyd[golygu | golygu cod]

Sei Shōnagon

Ychydig a wyddys am Sei ar wahân i'r argraffiadau o'i theimladau a'i bywyd personol a geir yn Makura no Sōshi ei hun ac ambell gyfeiriad ati gan yr Arglwyddes Murasaki Shikibu, awdures y nofel hir Genji no Monogatari (Hanes Genji). Roedd hi'n ferch i lywodraethwr rhanbarthol o'r enw Kiyowara Motosuke ac un o ddisgynyddion yr Ymherodr Temmo (630-686). Roedd ei thad a'i thaid yn llenorion. Yn 990 cafodd Sei Shōnagon ei phenodi yn arglwyddes siambr i'r Ymherodres Sadako, prif wraig yr Ymherodr Ichijo Tenno. Mae'n debyg bod Sei, fel nifer o ferched bonheddig eraill, yn byw yn y llys ymherodrol yn Heian Kyo (ar safle Kyoto hedddiw) cyn ei hapwyntiad ; yn sicr bu'n byw yno tan tua 1000 pan gollodd yr Ymherodres Sadako ei lle yn y llys ar ddechrau teyrnasiad Fujiwara no-Michinaga. Dilynodd Sei ei meistres mewn alltudiaeth a diflanodd oddi ar dudalennau hanes.

Ei gwaith[golygu | golygu cod]

Mae Makura no Sōshi yn llyfr unigryw sy'n anodd ei gategoreiddio. Mewn arddull anecdotal hynod o bersonol mae'n disgrifio bywyd mewnol llys Heian Kyo, ond ceir ynddo hefyd gerddi, rhestrau o hoffbethau a chasbethau, disgrifiadau o natur a synfyfyrio dwys, ynghŷd â phenawdau erotig a disgrifiadau o anturiaethau carwriaethol. Mae'r llyfr yn ddrych i'r llys y'i ysgrifennwyd ynddo ac yn cyfuno soffistigeiddrwydd aruchel ag agwedd ffres, ddiniwedd tuag at natur a phleserau caru cymysg.

Sei a Murasaki[golygu | golygu cod]

Fel y nodir uchod, roedd yr Arglwyddes Murasaki Shikibu a Sei Shōnagon yn gyfoeswyr yn llys Heian Kyo. Yn Siapan cymherir Murasaki i'r blodeuyn eirin (murasaki) difrycheulyd a Sei i'r blodeuyn ceirios lliwgar ond llai pur. Gwelir y gyferbyniaeth rhwng y ddwy lenores enwog yn eu gwaith a'u cymeriad. Roedd Murasaki yn swil, yn osgoi cymdeithasu arwynebol ac, mae'n debyg, yn dipyn o fursen, ond roedd Sei yn ddi-flewyn ar dafod ac yn byw bywyd i'r eithaf. Er nad yw'n ddiduedd mae'r disgrifiad bachog o Sei a rydd Murasaki yn ei dyddiadur yn werthfawr:

"Mae gan Sei Shōnagon yr osgo mwyaf anhygoel o hunanfoddhad. Ac eto os aroswn am eiliad i edrych ar yr ysgrifeniadau Tseineeg hynny o'i heiddo y mae hi'n eu taflu o gwmpas y lle gwelwn eu bod yn ddiffygiol iawn... Mae hi'n ferch ddawnus, yn ddi-os. Ond, os oes rhywun yn rhoi rhwydd hynt i'w emosiynau hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf anaddas ac os oes rhaid i rywun blasu popeth diddorol sy'n digwydd droi i fyny, yn anorfod mae pobl yn mynd i feddwl eich bod yn benchwiban. A sut gall pethau droi allan yn iawn i ddynes o'r fath?"[1]

Cyfieithiadau[golygu | golygu cod]

Nid yw'r Makura no Sōshi wedi ei gyfieithi i'r Gymraeg eto. Y cyfieithiad Saesneg clasurol yw:

  • Arthur Waley, The pillow-book of Sei Shōnagon (Llundain, 1928).

Ceir hefyd gyfieithiad mwy cyfoes:

  • Ivan Morris, The Pillow Book of Sei Shōnagon (Llundain, 1978).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ivan Morris, The World of the Shining Prince[:] Court Life in Ancient Japan, (Llundain, 1969), tt.262-3.