Segwens
Gwedd
| Delwedd:Musica enchiriadis Rex celi.png, Secuencia Lauda Sion pergamino.png | |
| Enghraifft o: | ffurf gerddorol, elfen o'r litwrgi Cristnogol |
|---|---|
| Math | emyn, siant Gregoraidd |
| Rhan o | Proper yr Offeren |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/07km9x |
| Thesawrws y BNCF | 19090 |
Math o emyn Lladin a genid yn ystod dathliad litwrgaidd yr Offeren yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig yw segwens (Lladin: sequentia).[1] Ei le traddodiadol yn yr Offeren oedd cyn cyhoeddi'r Efengyl. Cyn Cyngor Trent (1543–1563) roedd segwensiau ar gyfer llawer o wyliau ym mlwyddyn yr Eglwys. Ar ôl y Cyngor lleihawyd eu nifer ar gyfer y Ddefod Rufeinig i bedwar yn unig:
- Victimae paschali laudes (11g) ar gyfer y Pasg
- Veni Sancte Spiritus ar gyfer y Sulgwyn (12g)
- Lauda Sion Salvatorem (tua 1264) ar gyfer Gŵyl Corff Crist
- Dies irae (13g) ar gyfer Gŵyl yr Holl Eneidiau ac yr Offeren dros y Meirw
Yn 1727, ychwanegwyd Stabat Mater (13g) ar gyfer Gŵyl Mair y Gofidiau at y rhestr hon.[2][3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "sequence 4(a)"
- ↑ Donald J. Grout a Claude V. Palisca, Hanes Gerddoriaeth y Gorllewin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997), tt.68–72
- ↑ Michael Kennedy, Geiriadur Cerddoriaeth Rhydychen (Caernarfon: Curiad, 1998), t. 755