Sefydliad Rockefeller
![]() | |
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad di-elw, creative residency ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1913 ![]() |
![]() | |
Sylfaenydd | John D. Rockefeller, Frederick Taylor Gates, John D. Rockefeller Jr. ![]() |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad 501(c)(3) ![]() |
Pencadlys | Dinas Efrog Newydd ![]() |
Enw brodorol | Rockefeller Foundation ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Rhanbarth | Dinas Efrog Newydd ![]() |
Gwefan | https://www.rockefellerfoundation.org/ ![]() |
![]() |
Mae Sefydliad Rockefeller (Rockefeller Foundation) yn fudiad dyngarol preifat adnabyddus. Yn 420 Fifth Avenue, Efrog Newydd y mae ei brif swyddfeydd. Fe'i sefydlwyd gan John D. Rockefeller, ei fab John D. Rockefeller, Jr., a Frederick T. Gates, yn Nhalaith Efrog Newydd ym 1913.
Ei brif amcan yw "hyrwyddo lles y ddynoliaeth trwy'r byd."[1]
Llwyddodd y sefydliad:
- Cefnogi addysg yn yr Unol Daleithiau "heb wahaniaeth yn ôl hil, rhyw, na chred";
- Sefydlu'r Johns Hopkins School of Public Health a'r Harvard School of Public Health, dau o'r sefydliadau cyntaf o'u math;[2][3]
- Datblygu'r frechlyn yn erbyn y fad felen;[4]
- Cyllido datblygiad cynnar y gwyddorau cymdeithasol;
- Ariannu gwaith dwsinau o enillwyr Gwobrau Nobel;
- Cefnogi sefydliad nifer o sefydliadau diwylliannol yn America a led-led y byd;
- Cyllido datblygiad amaethyddol er mwyn cynyddu maint y bwyd sydd ar gael yn y byd.
Er nad efo yw'r sefydliad a'r asedau mwyaf mwyach, mae Sefydliad Rockefeller ymysg NGOs mwyaf eu dylanwad a'u heffaith yn y byd. [5] Erbyn diwedd 2008 cyfrifwyd mai $3.1 biliwn oedd ei asedau, o gymharu â $4.6 biliwn yn 2007, gyda grantiau blynyddol o $137 miliwn.[6]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Rockfound.org, history, 1913-1919
- ↑ Johns Hopkins Bloomberg School of Public HealthHistory Archifwyd 2020-03-25 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Harvard School of Public HealthHistory
- ↑ National Library of Medicine Wilbur A Sawyers Papers
- ↑ The Foundation Center
- ↑ FoundationCenter.org, The Rockefeller Foundation Archifwyd 2012-12-20 yn Archive.is, accessed 2010-1-31