Sebastian (sant)
Gwedd
| Sebastian | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 255 Narbonne |
| Bu farw | 20 Ionawr 287 Rhufain |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | milwr, swyddog milwrol |
| Dydd gŵyl | 20 Ionawr |
Sant a merthyr Cristnogol oedd Sebastian (tua 255 OC – tua 288 OC). Yn ôl y gred draddodiadol, fe'i lladdwyd yn ystod cyfnod erledigaeth Cristnogion o dan yr ymerawdwr Diocletian.[1] Cafodd ei glymu i bost neu goeden i ddechrau a'i saethu nes ei fod yn edrych fel draenog oherwydd yr holl saethau, er na wnaeth hyn ei ladd. Cafodd ei achub a'i iacháu, yn ôl traddodiad, gan Irene o Rufain. Ar ôl iddo wella aeth Sebastian at Diocletian er mwyn eu rhybuddio rhag eu pechodau, ond fe'i guriwyd i farwolaeth ganddynt.[2]
Caiff ei barchu yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig a'r Eglwys Uniongred fel nawddsant athletau, saethyddiaeth a phlâu.
Roedd delweddau o Sebastian wedi'i drywanu gan saethau yn bwnc poblogaidd i beintwyr am ganrifoedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Fr. Paolo O. Pirlo, SHMI (1997). "St. Sebastian". My First Book of Saints (yn Saesneg). Holy Mary Immaculate – Quality Catholic Publications. tt. 22–23. ISBN 971-91595-4-5.
- ↑
Hippolyte Delehaye (1911). "Sebastian, St". Encyclopædia Britannica. 24 (arg. 11th).