Sderot

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Sderot
Sderot Shelter.JPG
Coat of arms of Sderot.svg
Mathdinas, cyngor dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth23,090 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1951 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAntony, Steglitz-Zehlendorf Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAshkelon Subdistrict Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Arwynebedd4.47 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr93 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.5261°N 34.5939°E Edit this on Wikidata
Lleoliad Sderot mewn perthynas â Llain Gaza

Dinas yn y Negev yn ne Israel yw Sderot (Hebraeg: שְׂדֵרוֹת‎ ; Arabeg: سديروت). Ar ddiwedd 2006 roedd ganddi boblogaeth o 19,300. Mewnfudwyr o Iddewon o sawl gwlad, yn bennaf o Ogledd Affrica a'r hen Undeb Sofietaidd, yw trwch y boblogaeth.

Mae'n gorwedd yn agos i'r ffin rhwng Israel a Llain Gaza ac o ganlyniad mae wedi cael ei thargedu sawl gwaith gan rocedi Qassam sy'n cael eu tanio o'r llain. Ym March 2008, cyhoeddodd y maer fod y boblogaeth wedi disgyn tua 10%-15% wrth i deuluoedd ffoi (mae'n bosibl fod y ffigwr yn agosach at 25%)[angen ffynhonnell]. Mae 13 o bobl wedi cael eu lladd yno gan rocedi ers 2001.

Flag Israel template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Israel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.