Scutum (cytser)
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Dyddiad darganfod | 1684 |
| Rhan o | hemisffer wybrennol y de |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0cnqj |

Cytser bach a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Scutum. "Scutum" yw'r gair Lladin am "darian". Yn wreiddiol fe'i henwyd yn Scutum Sobiescianum ("Tarian Sobieski") gan Johannes Hevelius yn 1684.[1] Fe'i lleolir ychydig i'r de o'r cyhydedd wybrennol. Mae ei phedair seren ddisgleiriaf yn ffurfio siâp rhombws cul. Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
