Sculptor (cytser)
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Dyddiad darganfod | 1752 |
| Rhan o | hemisffer wybrennol y de |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/013xpk |
Cytser pŵl a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Sculptor. "Sculptor" yw'r gair Lladin am "gerflunydd". Fe'i henwyd yn "L'Atelier du Sculpteur" ("stiwdio'r cerflunydd") yn 1756 gan y seryddwr o Ffrancwr Nicolas Louis de Lacaille. Yn ddiweddarach newidiodd Lacaille yr enw i'w ffurf Ladin, Apparatus Sculptoris, enw a fyrhawyd yn "Sculptor" gan Francis Baily yn 1845.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Gwrthrychau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sculptor", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 24 Mawrth 2025