Scrooge (ffilm 1951)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Scrooge – 1951 UK film poster.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw, du-a-gwyn Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1951 Edit this on Wikidata
Genreffilm ffantasi, ffilm i blant, drama gwisgoedd, ffilm ddrama, ffilm Nadoligaidd, ffilm a seiliwyd ar lenyddiaeth gynharach, ffilm ysbryd Edit this on Wikidata
Prif bwncGobaith, redemption, greed Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLlundain Edit this on Wikidata
Hyd86 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrBrian Desmond Hurst Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrBrian Desmond Hurst Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuUnited Artists Edit this on Wikidata
CyfansoddwrRichard Addinsell Edit this on Wikidata
DosbarthyddNetflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddC.M. Pennington-Richards Edit this on Wikidata

Mae Scrooge (a ryddhawyd fel A Christmas Carol yn yr Unol Daleithiau) yn ffilm ddrama ffantasi Nadoligaidd o 1951 ac addasiad o A Christmas Carol (1843) gan Charles Dickens.[1] Mae'n serennu Alastair Sim [2] fel Ebenezer Scrooge, ac fe'i cynhyrchwyd a'i gyfarwyddwyd gan Brian Desmond Hurst, gyda sgrinlun gan Noel Langley.[3][4]

Mae'r ffilm hefyd yn cynnwys Kathleen Harrison fel Mrs Dilber, morwyn Scrooge. Mae George Cole yn serennu fel fersiwn iau Scrooge, Hermione Baddeley fel Mrs Cratchit, Mervyn Johns fel Bob Cratchit, Clifford Mollison fel Samuel Wilkins, dyledwr; Jack Warner fel Mr Jorkin, rôl a grëwyd ar gyfer y ffilm; Ernest Thesiger fel trefnwr angladd Marley; a Patrick Macnee fel y Jacob Marley ifanc. Mae Michael Hordern yn chwarae ysbryd Marley, yn ogystal â'r oedolyn Marley. Mae Peter Bull yn gwasanaethu fel adroddwr, trwy ddarllen dognau o eiriau Dickens ar ddechrau a diwedd y ffilm; mae hefyd yn ymddangos ar y sgrin fel un o'r dynion busnes sy'n trafod angladd Scrooge.[5]

Plot[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar Noswyl Nadolig 1843, dywed Ebenezer Scrooge wrth ddau ddyn busnes nad oes ganddo unrhyw fwriad i ddathlu'r Nadolig. Yn ei weithle, mae'n gwrthod rhoi cyfraniad i ddau ddyn sy'n casglu ar gyfer y tlawd. Yn fuan wedi hynny, mae ei nai, Fred, yn ei wahodd i rannu cinio Nadolig drannoeth, ond mae Scrooge yn gwrthod, gan wawdio Fred am iddo briodi yn erbyn ewyllys ei ewyrth. Er bod Scrooge yn anfodlon wneud, mae'n cytuno i roi gwyliau â thâl i'w glerc Bob Cratchit, ond mae'n ei ddisgwyl yn ôl i'r gwaith yn gynharach drannoeth.[6]

Mae Scrooge yn dychwelyd adref ac yn gweld curiad y drws yn trawsnewid i wyneb ei bartner sydd wedi hir farw, Jacob Marley. Y noson honno, mae Marley yn ymddangos i Scrooge fel ysbryd, gan rybuddio bod yn rhaid iddo edifarhau neu ddioddef cael ei rwymo am byth mewn cadwyni ar ôl marwolaeth. Mae'n rhybuddio Scrooge ymhellach y bydd tri ysbryd yn ymweld ag ef; bydd y cyntaf yn cyrraedd am un o'r gloch. Wedi'i ddychryn gan yr ymweliad, mae Scrooge yn cymryd lloches yn ei wely.

Am un o'r gloch, mae Ysbryd Nadolig y Gorffennol yn cyrraedd. Mae Scrooge yn gweld rhithiolaeth o'i hun yn unig yn yr ysgol. Mae'n anhapus gan nad oes gan ei dad gariad ato gan i'w fam farw wrth esgor arno. Nesaf, mae'r Ysbryd yn dangos i Scrooge rhithiogaeth o'r parti Nadolig blynyddol sy'n cael ei gadw gan ei gyn cyflogwr caredig Fezziwig. Mae'n gweld y dydd gofynnodd am law ei gariad Alice, sy'n derbyn ei fodrwy. Yna dangosir iddo sut y cafodd ei demtio i adael cyflogaeth Fezziwig i ymuno â busnes sy'n cael ei redeg gan Mr Jorkin, lle mae'n cwrdd â Jacob Marley.

Ar ôl i gwmni Jorkin brynu busnes aflwyddiannus Fezziwig, mae Alice yn torri ei dyweddïad i Scrooge oherwydd ei ymroddiad i "addoli arian." Mae Scrooge yn dyst i farwolaeth ei chwaer fach, mam Fred, ac yn darganfod iddo fethu ei geiriau olaf yn gofyn iddo edrych ar ôl ei mab. Pan ddarganfyddir bod Jorkin wedi twyllo arian gan ei gwmni, sydd bellach yn fethdalwr, mae Scrooge a Marley yn gwneud iawn am yr arian coll, ac yn cymryd awenau'r cwmni. Blynyddoedd yn ddiweddarach, mae Scrooge yn gwrthod gadael ei waith yn gynnar i ymweld â Marley, sydd ar ei wely angau. Pan fydd Scrooge yn cyrraedd o'r diwedd, mae Marley yn ceisio ei rybuddio yn erbyn ei ariangarwch ac yn farw. Mae'r Ysbryd yn adnair Scrooge am gymryd arian a thŷ Marley, ac mae Scrooge yn cwympo yn ôl i'w wely.

Mae Scrooge yn cael ei ddeffro gan Ysbryd Nadolig y Presennol sy'n mynd ag ef i weld sut mae "dynion ewyllys da" yn dathlu'r Nadolig. Mae'n dangos iddo fwynwyr tlawd yn canu carolau Nadolig yn llawen a dathliad Nadolig cynnes y teulu Cratchit. Mae Scrooge yn gofyn a fydd eu plentyn anabl, Tiny Tim, yn goroesi ei gyflwr corfforol, ond mae'r Ysbryd yn awgrymu na fydd. Maen nhw'n ymweld â pharti Nadolig Fred nesaf, lle mae Fred yn amddiffyn enw da ei ewythr rhag sylwadau bychanus ei westeion. Yna gwelir Alice yn gweithio mewn tloty, lle mae hi'n ymhyfrydu mewn gofalu am y rhai sâl ar Noswyl Nadolig. Pan na all Scrooge ddweud wrth yr Ysbryd y bydd yn elwa o'r hyn a welodd, mae'r Ysbryd yn dangos dau blentyn esgyrnog iddo - yn personoli Anwybodaeth ac Eisiau - ac yn adnair Scrooge gyda'i eiriau ei hun: "Onid oes carchardai? Onid oes tlotai? "

Mae Scrooge yn rhedeg i ffwrdd ond yn dod ar draws Ysbryd y Nadolig Sydd Eto i Ddod, sy'n dangos iddo'r teulu Cratchit yn galaru marwolaeth ddiweddar Tiny Tim. Yna mae'n gwylio tri o bobl, gan gynnwys ei forwyn, yn gwerthu eiddo dyn marw. Pan ddangosir ei fedd ei hun iddo, mae Scrooge yn wylo'n agored ac yn annog yr Ysbryd am drugaredd, gan bledio "Nid ydwyf y dyn roeddwn i". Mae'n deffro yn ei wely ei hun i ddysgu ei bod hi'n Ddydd Nadolig ac mae'n dal i gael cyfle i wneud daioni. Pan mae ei forwyn Mrs Dilber yn cael ei ddychryn gan ei drawsnewidiad, mae Scrooge yn tawelu ei meddwl ac yn addo codi ei chyflog. Mae'n prynu cinio twrci ar gyfer y teulu Cratchit ac yn plesio trwy fynd i'w barti cinio lle mae'n dawnsio gyda'r gwesteion eraill.

Drannoeth mae Scrooge yn chwarae jôc ar Bob Cratchit, gan esgus ei ddiswyddo am fod yn hwyr, ond yn lle hynny mae'n rhoi codiad cyflog iddo. Mae'r adroddwr yn dweud bod Scrooge wedi dod yn "ddyn mor dda ag yr oedd yr hen ddinas wedi ei adnabod erioed" ac yn ail dad i Tiny Tim, na fu farw ac sy'n cael ei weld yn rhedeg heb faglu. Mae Scrooge yn cerdded i ffwrdd gyda Tiny Tim wrth i'r ffilm ddod i ben i dôn "Tawel Nos." [7]

Cast[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Alastair Sim fel Ebenezer Scrooge
  • Kathleen Harrison fel Mrs Dilber, Morwyn
  • Mervyn Johns fel Bob Cratchit
  • Hermione Baddeley fel Mrs Cratchit
  • Michael Hordern fel Ysbryd Jacob Marley
  • George Cole fel Ebenezer Scrooge Ifanc
  • Glyn Dearman fel Tiny Tim
  • John Charlesworth fel Peter Cratchit
  • Michael J. Dolan fel Ysbryd Nadolig y Gorffennol
  • Francis de Wolff fel Ysbryd Nadolig y Presenol
  • Czesław Konarski fel Ysbryd y Nadolig Eto i Ddod
  • Rona Anderson fel Alice, cyn dyweddi Scrooge
  • Carol Marsh fel Fan "Fanny" Scrooge
  • Jack Warner fel Mr Jorkin, ail gyflogwr Scrooge
  • Roddy Hughes fel Mr Fezziwig, cyflogwr cyntaf Scrooge
  • Patrick Macnee fel Jacob Marley ifanc
  • Brian Worth fel Fred, nai Scrooge
  • Olga Edwardes fel gwraig Fred
  • Miles Malleson fel Hen Joe
  • Ernest Thesiger fel Mr Stretch (yr ymgymerwr)
  • Louise Hampton fel yr Olchwraig
  • Peter Bull fel y Dyn Busnes Cyntaf yn y gyfnewidfa (hefyd yr Adroddwr)
  • Douglas Muir fel yr Ail Ddyn Fusnes yn y gyfnewidfa
  • Noel Howlett fel Casglwr Cyntaf i bobl mewn angen
  • Fred Johnson fel Ail Gasglwr pobl mewn angen
  • Eliot Makeham fel Mr Snedrig
  • Henry Hewitt fel Mr Rosebed
  • Hugh Dempster fel Mr Groper
  • Eleanor Summerfield fel Miss Flora, gwestai parti Fred
  • Richard Pearson fel Mr Tupper, gwestai parti Fred
  • Clifford Mollison fel Samuel Wilkins, cleient gwael Scrooge
  • Hattie Jacques fel Mrs Fezziwig
  • Theresa Derrington fel Morwyn Fred [8]
  • David Hannaford [9] fel Bachgen yn prynu twrci
  • Catherine Leach fel Belinda Cratchit
  • Moiya Kelly fel Martha Cratchit
  • Luanne Kemp fel Mary Cratchit
  • Maire O'Neill fel Claf Alice yn yr Ysbyty Elusennol
  • Tony Wager fel glaslanc Mr Fezziwig
  • Derek Stephens fel Dawnsiwr ym mharti Fezziwig
  • Vi Kaley fel Hen Arglwyddes yn eistedd wrth y stôf yn yr Ysbyty Elusennol

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd Richard Addinsell sawl darn ar gyfer sgôr y ffilm, yn amrywio o ran naws o dywyll i olau a llawen. Un o'r alawon mwyaf nodedig yw polca, a ddefnyddir yn y ddwy fersiwn wahanol o barti cinio Fred: mae un lle mae Scrooge yn arsylwi arni dra gydag Ysbryd Nadolig y Presenol, a'r llall gyda Scrooge yn mynychu'r parti ar ôl ei weddnewidiad

Mae'r ffilm hefyd yn cynnwys dyfyniadau o rai carolau Nadolig traddodiadol ac alawon eraill. Mae "Clywch Lu'r Nef" yn cael ei ganu dros ran o'r credydau agoriadol, a chan y mwynwyr pan mae Scrooge gydag Ysbryd Nadolig y Presenol,. Chwaraeir fersiwn offerynnol o "I Saw Three Ships" pan fydd Scrooge yn rhoi darn arian i Mrs Dilber, ac eto ychydig cyn diwedd y ffilm. Mae "Tawel Nos" yn cael ei chwarae a'i ganu ar wahanol adegau, gan gynnwys dros ran olaf yr olygfa olaf a'r diweddglo.

Mae dawns wledig Seisnig "Sir Roger de Coverley" yn cael ei chwarae a'i ddawnsio yn ystod yr olygfa lle mae Scrooge yn ymweld â swyddfa Hen Fezziwig gydag Ysbryd Nadolig y Gorffennol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dickens, Charles (1911). A Christmas carol. London ; New York : Hodder & Stoughton.
  2. "Alastair Sim". IMDb. Cyrchwyd 2021-02-01.
  3. Crowther, Bosley (1951-11-29). "THE SCREEN IN REVIEW; Dickens' 'A Christmas Carol,' With Alastair Sim Playing Scrooge, Unveiled Here (Published 1951)". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-02-01.
  4. "Humbug to all the rest: Why the 1951 Scrooge film is considered 'the gold standard' | CBC News". CBC. Cyrchwyd 2021-02-01.
  5. A Christmas Carol (1951) - IMDb, http://www.imdb.com/title/tt0044008/fullcredits, adalwyd 2021-02-01
  6. "A Christmas Carol: Summary | SparkNotes". www.sparknotes.com. Cyrchwyd 2021-02-01.
  7. "A Christmas Carol | film by Hurst [1951]". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2021-02-01.
  8. Meet the maid: An interview with Theresa Derrington Cozens-Hardy
  9. Actor Credits - David Hannaford