Schiehallion

Oddi ar Wicipedia
Schiehallion
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Uwch y môr1,083 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.666933°N 4.100229°W Edit this on Wikidata
Cod OSNN7138654760 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd716 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaBen Lawers Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynyddoedd y Grampians Edit this on Wikidata
Map

Mae Schiehallion (1083m / 3,547') yn fynydd Munro ger Loch Rannoch yng nghanol Ucheldiroedd yr Alban ac yn fynydd gosgeiddig iawn, un o'r rhai harddaf yn yr Ucheldiroedd. Mae'n codi o'r coedwigoedd a'r rhosdiroedd tua 5 km i'r dwyrain o bentref Kinloch Rannoch ar ben dwyreiniol Loch Rannoch ei hun. Craig risial yw'r rhan fwyaf o'r creigiau yn y mynydd. Ei gymydog agosaf yw Carn Mairg. Mae'r copa tua dwy fetr yn is na'r Wyddfa.

Y ffordd hawsaf i'w ddringo yw trwy ddilyn y llwybr trwy Goedwig Ddu Rannoch yn ymyl Kinloch Rannoch.

Am fap yn dangos lleoliad Schiehallion, gweler Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros) (Adran 2).

Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro, Murdo a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]