Saunders Davies

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bu Francis James Saunders Davies (ganed 30 Rhagfyr 1937) yn Esgob Bangor o 2000 hyd 2004.

Ganed ef ger Abergwaun, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1963. Daeth yn giwrad cynorthwyol yng Nghaergybi, yna bu yn Llanllyfni, Bangor, Abertawe a Chaerdydd. Yn 1993, daeth yn Archddiacon Meirionnydd. Etholwyd ef yn Esgob Bangor yn 1999 a chysegrwyd ef yn Ionawr 2000. Ymddeolodd yn Chwefror 2004.