Sarff (offeryn)
| Enghraifft o: | math o offeryn cerdd |
|---|---|
| Math | labrosones with fingerholes, with wider conical bore |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03kljf |
Offeryn chwyth mawr anarferedig â traw isel yw'r sarff. Er bod ei chorff wedi'i wneud o bren wedi'i orchuddio â lledr, mae'n perthyn i deulu offerynnau pres oherwydd y ffordd y mae'n cynhyrchu sain. Mae ganddi ddarn ceg sy'n debyg i ddarn ceg trombôn. Mae hwn wedi'i gwneud o ifori neu gorn fel arfer ac mae wedi'i gysylltu â'r corff gan wddf metel.
Mae'n cael ei henw gan fod corff yr offeryn, sydd â dyllfedd gonigol, wedi'i blygu fel neidr. Mae chwe thwll yng nghorff y sarff yn cael eu gorchuddio a dadorchuddio gan fysedd y chwaraewr i gael nodiadau gwahanol.
O'r 17g hyd at ddechrau'r 19g fe'i defnyddiwyd i atgyfnerthu'r bas. Ar ddechrau'r 19g, ychwanegwyd allweddi i'r offeryn i wella ei donyddiaeth, ond disodlwyd y sarff yn fuan gan yr ophicleide ac yn y pen draw gan y tiwba.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Reginald Morley-Pegge a Philip Bate, "Serpent", The New Grove Dictionary of Music and Musicians (Llundain: Macmillan, 1980), 17:181–5