Sarah Kane
Sarah Kane | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Chwefror 1971 ![]() Brentwood ![]() |
Bu farw | 20 Chwefror 1999 ![]() o crogi ![]() Llundain, Ysbyty Coleg y Brenin ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | dramodydd, ysgrifennwr, awdur ![]() |
Adnabyddus am | Blasted, Cleansed, 4.48 Psychosis ![]() |
Gwobr/au | Europe Theatre Prize ![]() |
Dramodydd o Loegr oedd Sarah Kane (3 Chwefror 1971 - 20 Chwefror 1999) adnabyddus am ei dramâu sy'n delio â themâu cariad adferadwy ("redemptive love"), chwant rhywiol, poen, artaith — corfforol a seicolegol — a marwolaeth.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Blasted, Cleansed a 4.48 Psychosis.
Nodweddir ei gwaith gan ddwyster barddonol, cynildeb diorchest, yr ymwchwilio parhaus am ffurf theatraidd newydd ac, yn ei gwaith cynharach, y defnydd o weithgareddau llwyfan eithafol a threisgar. Mae Kane ei hun, yn ogystal ag ysgolheigion fel Graham Saunders, yn nodi dylanwad theatr fynegiannol a thrasiedi Jacobeaidd.[1] Mae'r beirniad llenyddol Aleks Sierz wedi gweld ei gwaith fel rhan o theatr In-Yer-Face, math o ddrama a dorrodd i ffwrdd o gonfensiynau theatr naturiaethol. Mae llyfryddiaeth Kane yn cynnwys pum drama, un ffilm fer (Skin), a dwy erthygl papur newydd ar gyfer The Guardian.[2]
Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i ganed yn Brentwood, Essex a bu farw drwy hunanladdiad yn Llundain. Fe'i magwyd gan rieni efengylaidd, Cristnogol, ac roedd Kane yn Gristion ymroddedig yn ei harddegau. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, gwrthododd y credoau hynny. Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Shenfield, astudiodd ddrama ym Mhrifysgol Bryste, gan raddio yn 1992, ac aeth ymlaen i ddilyn cwrs MA mewn ysgrifennu drama ym Mhrifysgol Birmingham, dan arweiniad y dramodydd David Edgar.[1][3][4][5][6][7][8][9]
Iselder[golygu | golygu cod y dudalen]
Dioddefodd Kane o iselder difrifol am flynyddoedd lawer ac fe'i derbyniwyd ddwywaith yn wirfoddol i Ysbyty Maudsley yn Llundain. Fodd bynnag, ysgrifennodd yn gyson drwy gydol ei bywyd fel oedolyn. Gweithiodd am gyfnod byr fel cyswllt llenyddol ar gyfer y Bush Theatre, Llundain. Yna, am flwyddyn bu'n ysgrifennydd preswyl i Paines Plow, cwmni theatr yn hyrwyddo ysgrifennu newydd, lle anogodd awduron eraill i fynd ati. [10][11][12]
Bu farw Kane yn 1999; ddeuddydd ar ôl cymryd gorddos o gyffuriau presgripsiwn, crogodd ei hun yn ei hystafelloedd mewn ystafell ymolchi yn Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain.[13]
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Europe Theatre Prize (1999) .
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 Saunders, Graham (2002). Love me or kill me: Sarah Kane and the theatre of extremes. Manchester; Manchester University Press : 2002. t. 224. ISBN 0-7190-5956-9.
- ↑ Sierz, Aleks (2001). In-yer-face theatre: British drama today. London: Faber and Faber. tt. 120–121. ISBN 0-571-20049-4.
- ↑ Mark Ravenhill Obituary: Sarah Kane, The Independent, 23 Chwefror 1999
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13499407t; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13499407t; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13499407t; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Discogs; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Sarah Kane; dynodwr Discogs (artist): 1064570.
- ↑ Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13499407t; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Discogs; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Sarah Kane; dynodwr Discogs (artist): 1064570.
- ↑ Man geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, dynodwr ODNB 71980, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Achos marwolaeth: https://www.theguardian.com/books/2000/jul/01/stage1. "Hospital staff 'left suicidal author alone'"; The Times; rhifyn: 66627; tudalen: 10; dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 1999.
- ↑ Alma mater: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, dynodwr ODNB 71980, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/ Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, dynodwr ODNB 71980, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Galwedigaeth: "Hospital staff 'left suicidal author alone'"; The Times; rhifyn: 66627; tudalen: 10; dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 1999.
- ↑ Greig, David (1998). "Introduction". Sarah Kane:Complete Plays. t. 90. ISBN 0-413-74260-1.ISBN 0-413-74260-1 ISBN 978-0-413-74260-5
- ↑ Hattenstone, Simon (1 Gorffennaf 2000). "A sad hurrah (part 2)". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 April 2018.