Sarah Breese

Oddi ar Wicipedia
Sarah Breese
GanwydAberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, digrifwr stand-yp, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.sarahbreese.com/ Edit this on Wikidata

Mae Sarah Breese yn gyfarwyddwr, ysgrifennwr a pherfformiwr comedi. Mae hi hefyd yn trefnu digwyddiadau comedi. Mae'n gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn byw yng Nghaerdydd.

Bywgraffiad ac Addysg[golygu | golygu cod]

Magwyd Sarah ar ffarm ger Commins Coch, Powys ac addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd Llanidloes. Astudiodd ym Mhrifysgol Caerefrog gan raddio mewn gyda BA Dosb. 1 mewn Saesneg gyda Ysgrifennu a Pherfformiad ac yna MA mewn Ôl-gynghyrchu gydag Effeithiau Gweledol. Aeth ymlaen wedyn i ennill MSt mewn Aestheteg Ffilm ym Mhrifysgol Rhydychen.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

Mae wedi gweithio ar ddyluniad teitlau sawl cyfres gan gynnwys Y Gwyll/Hinterland, The Girl in the Diary (BBC Wales, 2014), Gadael Yr Ugeinfed Ganrif (S4C, 2014) a Hidden / Craith (S4C/BBC Wales, 2018).[1]

Comedi[golygu | golygu cod]

Ers 2016 mae wedi gweithio'n llawn amser ar gomedi gan ysgrifennu a pherfformio. Bu'n gweithio ar raglen o Ŵyl Fringe Caeredin, cyd-gynhyrchu rhaglen Elis James, Llygaid Y Byd. Gweithiodd ar gyfres The Unexplainers,[2] oedd yn gyfres gomedi i BBC Wales ac bu'n gweithio a pherfformio yng nghyfres sitcom BBC Wales, Tourist Trap (2018). Mae'n gweithio ar gyfres gomedi i S4C gyda Tudur Owen, Elis James ac eraill. Mae hefyd yn datblygu comedi arlein. Bu hefyd yn cyflwyno cyfres peilot ar Radio Cymru Mwy, sef fersiwn rhagflas o BBC Radio Cymru 2 yn 2016 gyda'r digrifwr, Steffan Alun.[3]

Mae hefyd yn trefnu digwyddiadau comedi gydag Odd Night Out.

Stand-Yp[golygu | golygu cod]

Dechreuodd berfformio stand-yp yn 2015. Mae wedi ennill y 'Wimborne New Act Competition 2018', yn rownd derfynnol 'Welsh Unsigned Standup Award 2016', ac wedi perfformio ar draws Prydain ac Ewrop gan gynnwys Gŵyl Fringe Caeredin a Gŵyl Gomedi Machynlleth.[4]

Roedd yn gyd-gyflwynydd Comedy Carousel (Glee Caerdydd), yn gyfrannwr cyson i "The Gathering" gan Mark Olver (hefyd yn Glee Caerdydd),[5] ac wedi arwain nosweithiau'n cynnwys 'Kill For A Seat', 'Off the Kerb', 'Eminent Banter', a nosweithiau ei hunan gydag 'Odd Night Out'. Yn 2018 cynhaliodd gig elusen yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn cynnwys comedïwyr megis Jason Manford, Joe Lycett, Nish Kumar, Phil Nichol, Mark Olver, Stuart Goldsmith, Jon Richardson, a llawer mwy.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]