Sara Manchipp
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Model a chyflwynwraig yw Sara Manchipp (ganwyd tua 1990) Mae hi'n enedigol o Faglan. Aeth i Ysgol Gyfun Ystalyfera ac yna astudiodd lefel A mewn Seicoleg; Cyfathrebu a Diwylliant yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot.[1] Graddiodd o Brifysgol Abertawe gyda gradd mewn Seicoleg a Chwnsela a mae'n dychwelyd i astudio gradd ôl-raddedig.[2]
Enillodd gystadleuaeth Miss Cymru yn 2011 ac aeth ymlaen i gystadleuaeth Miss Byd 2013 yn Llundain, lle cyrhaeddodd rhai o'r rowndiau terfynol ond aeth allan cyn y rownd gyn-derfynol.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Beauty and Brains. Adalwyd ar 23 Chwefror 2016.
- ↑ (Saesneg) Event Rater Q&A with Sara Manchipp (10 Gorffennaf 2015). Adalwyd ar 23 Chwefror 2016.
- ↑ The Miss Wales Hall of Fame (Hydref 2014). Adalwyd ar 23 Chwefror 2016.
Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) [1] Archifwyd 2011-12-06 yn y Peiriant Wayback.