San Juan (Puerto Rico)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth San Juan, Puerto Rico)
Jump to navigation Jump to search
San Juan
SanJuanPRC11.png
Coat of arms san juan pr.svg
Math dinas yn yr Unol Daleithiau America, state or insular area capital in the United States, municipality of Puerto Rico Edit this on Wikidata
Poblogaeth 355,074 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1521 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Carmen Yulín Cruz Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Madrid, Maracaibo, Cádiz, Dinas Mecsico, Cartagena, Sir Honolulu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Northern Coast Edit this on Wikidata
Sir Puerto Rico Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Puerto Rico Puerto Rico
Arwynebedd 120.193947 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 8 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 18.45°N 66.07°W Edit this on Wikidata
Cod post 00901–00975 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of San Juan Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Carmen Yulín Cruz Edit this on Wikidata
Golygfa o'r awyr ar San Juan
Erthygl am brifddinas Puerto Rico yw hon. Gweler hefyd San Juan (gwahaniaethu).

Prifddinas a dinas fwyaf Puerto Rico yw San Juan (talfyriad o'r enw Sbaeneg, San Juan Bautista "Sant Ioan Fedyddiwr"). Yn ôl cyfrifiad 2000 roedd ganddi boblogaeth o 433,733, sy'n ei gwneud y ddinas 42ail fwyaf dan reolaeth yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd San Juan gan wladychwyr Sbaenaidd yn 1521, a chafodd ei galw yn Ciudad de Puerto Rico ("Dinas Puerto Rico"). Yn ogystal â bod y ddinas hynaf ym Mhuerto Rico, hi yw'r ddinas hynaf yn yr Unol Daleithiau i gael ei sefydlu gan Ewropeiaid a'r ail hynaf felly yn yr Amerig gyfan, ar ôl Santo Domingo, Gweriniaeth Dominica. Ceir sawl adeilad hanesyddol yn San Juan, e.e. yr hen gaerau arfordirol, Fort San Felipe del Morro a Fort San Cristobál.

Heddiw, mae San Juan yn gwasanaethu fel un o borthladdoedd mwyaf Puerto Rico a hi hefyd yw canolfan gwaith cynhyrchu, gwasanaethau ariannol, diwylliant a thwristiaeth y wlad. Mae tua 2 filiwn o bobl yn byw yn yr ardal fetropolitaidd sy'n cynnwys San Juan ei hun a maesdrefi dinesig Bayamón, Guaynabo, Cataño, Canóvanas, Caguas, Toa Alta, Toa Baja, Carolina a Trujillo Alto; felly mae tua hanner poblogaeth Puerto Rico yn byw ac yn gweithio yn yr ardal hon erbyn heddiw.