Samuel Moss

Oddi ar Wicipedia
Samuel Moss
Ganwyd13 Rhagfyr 1858 Edit this on Wikidata
Yr Orsedd Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mai 1918 Edit this on Wikidata
Llandegla Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr, barnwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Ei Anrhydedd y Barnwr Samuel Moss MA BCL (13 Rhagfyr 185814 Mai 1918) yn wleidydd a chyfreithiwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Dwyrain Sir Ddinbych rhwng 1897 a 1896 ac fel Barnwr Llys Sirol Gogledd Cymru a Chaer o 1906 hyd ei farwolaeth.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Moss yn Yr Orsedd, Sir Ddinbych yn fab i Enoch Moss.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Wigan a Choleg Caerwrangon, Rhydychen. Dechreuodd fel myfyriwr yn Rhydychen yn 16 mlwydd oed, graddiodd yn BA gydag anrhydedd mewn rhethreg ym 1878. Ym 1880 enillodd gradd BCL (Baglor y Gyfraith Gyffredin) a gradd MA ym 1882.[2]

Priododd Eleanor Bythell Samuel, merch hynaf E. B. Samuel, the Darland, Yr Orsedd, ym 1895.[3] Bu iddynt bedwar mab a dwy ferch.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Derbyniwyd Moss yn aelod o Lincoln's Inn ym 1877 ac fe'i galwyd i'r Bar ym 1880. Am dair blynedd bu'n athro yn dysgu'r clasuron yn y Coleg Eingl-Americanaidd yn Nice, Ffrainc.[2] Ym 1883 ymunodd fel bargyfreithiwr ar gylchdaith Caer a Gogledd Cymru, ond bu iechyd gwan yn ei rwystro rhag cyflawni unrhyw waith cyfreithiol am bedair blynedd.

Ym 1887 penodwyd Moss yn Gomisiynydd Ffiniau Cynorthwyol o dan Ddeddf Ffiniau Llywodraeth leol, gyda chyfrifoldeb am bennu ffiniau Cynghorau Sir Newydd Cymru [4] a ffiniau undebau deddfau'r tlodion.[5]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Wedi ffurfio'r cynghorau sir newydd ym 1888 safodd Moss fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn ward Burton ar Gyngor Sir Ddinbych. Safodd y Capten Griffith Boscawen dros y Ceidwadwyr gan gipio'r sedd o 149 bleidlais, mwyafrif o 16 dros 133 pleidlais Moss [6]. Er gwaethaf iddo golli'r etholiad fe'i penodwyd i'r Cyngor Sir fel henadur (cynghorydd nad oedd angen ei ethol). Etholwyd Thomas Gee yn gadeirydd y cyngor gyda Moss yn ddirprwy iddo. Pan ymddeolodd Gee o'r gadair ym mis Mawrth 1893 dyrchafwyd Moss yn gadeirydd yn ei le.[7]. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Tref Caer o 1894.

Wedi marwolaeth George Osborne Morgan Aelod Seneddol Dwyrain Sir Ddinbych, dewiswyd Moss i sefyll dros y Rhyddfrydwyr yn yr isetholiad dilynol. Llwyddodd i dal gafael ar y sedd i'w blaid gan ennill dros 65% o'r bleidlais. Cafodd ei ethol heb wrthwynebiad yn etholiadau 1900 a 1906.

Ym mis Mai 1906 apwyntiwyd Moss yn ddirprwy barnwr Llys Sirol (llys man ddyledion) Gogledd Cymru a Chaer i ddirprwyo dros y barnwr Syr Horatio Lloyd a oedd yn sâl. Gan ei fod yn swydd llanw, caniatawyd i Moss parhau i fod yn Aelod Seneddol, ar yr amod nad oedd yn derbyn tâl am ei waith fel barnwr.[8]. Pan ymddeolodd Syr Horatio fel Barnwr dyrchafwyd Moss i'r Farnwriaeth lawn yn ei le a bu'n rhaid iddo ildio ei sedd yn y senedd.[9].

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, Accre Hall, Llandegla ar ôl salwch hir yn 59 mlwydd oed.[10] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Tegla, Llandegla.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (2007, December 01). Moss, His Honour Judge Samuel, (13 Dec. 1858–14 May 1918), JP (Denbighshire); County Court Judge, North Wales, Chester District (Circuit No 29), since 1906; barrister-at-law. WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 20 Chwef. 2019
  2. 2.0 2.1 "SAMUEL MOSS MA BCL - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-06-10. Cyrchwyd 2019-02-20.
  3. "MARRIAGE OF MR SAMUEL MOSS AT ROSSETT - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1895-11-30. Cyrchwyd 2019-02-21.
  4. "THE GLAMORGANSHIRE BOUNDARIES - South Wales Echo". Jones & Son. 1888-05-18. Cyrchwyd 2019-02-21.
  5. "MERTHYR UNION BOUNDARIES - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1888-05-19. Cyrchwyd 2019-02-21.
  6. "The New Denbighshire County Council - Denbighshire Free Press". Charles Cottom & Co. 1889-01-19. Cyrchwyd 2019-02-21.
  7. "Cadeirwyr y Cynghorau Sirol - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1893-03-23. Cyrchwyd 2019-02-21.
  8. "MRSAMUELMOSSMP - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1906-05-12. Cyrchwyd 2019-02-21.
  9. "APPWYNTIAD MR SAMUEL MOSS FEL BARNWR - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1906-07-14. Cyrchwyd 2019-02-21.
  10. "IJUDGEMOSS - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1918-05-17. Cyrchwyd 2019-02-21.
  11. "OBITUARY - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1918-05-24. Cyrchwyd 2019-02-21.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Osborne Morgan
Aelod Seneddol

Dwyrain Sir Ddinbych
18971906

Olynydd:
Edward George Hemmerde