Sam Harrison

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Samuel Harrison)
Sam Harrison
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnSamuel James Harrison
Dyddiad geni (1992-06-24) 24 Mehefin 1992 (31 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac, Ffordd, Cyclo-cross, Beicio Mynydd
RôlReidiwr
Tîm(au) Amatur
Prif gampau
Baner Prydain Fawr Pencampwr cenedlaethol sawl gwaith
Golygwyd ddiwethaf ar
15 Mehefin 2009

Seiclwr rasio trac Cymreig ydy Samuel James "Sam" Harrison (ganwyd 24 Mehefin 1992).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Daw Harrison o Rhisga, Casnewydd. Roedd ei ffrindiau wedi rhoi cynnig ar reidio'r trac yng Nghasnewydd, a oedd yn newydd ar y pryd, felly rhoddodd Harrison gynnig arni hefyd. Roedd yn 13 oed,[2] a chyn bo hir, dechreuodd rasio gyda chlwb "Cwmcarn Paragon". Dewiswyd ef i fod yn aelod o Raglen Datblygu Olympaidd British Cycling yn 2008. Mae'n anelu at gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012.[3]

Cafodd Harrison ei enwebu ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon Iau'r Flwyddyn y BBC yn 2008.[1][4] Dewiswyd ef i gynyrchioli Prydain ym Mhencampwriaethau Cyclo-cross y Byd ym mi sChwefror 2009.[5]

Ym mis Mehefin 2009, cafodd chwech o feiciau eu dwyn o gatref y teulu. Roeddent yn werth tua 12 mil o bunnau, ac yn cynnwys beic tîm unigryw pinc llachar Planet-X nad yw ar gael i'w brynu. Bydd yn ceisio cael ei ddewis i gystadlu ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop yn 2009.[4]

Mae Harrison yn mynychu Coleg Gwent yn Crosskeys.[5]

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

2007
1af Baner Prydain Fawr Pursuit 2km, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
1af Baner Prydain Fawr Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
1af Baner Cymru Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Cymru - Ieuenctid
3ydd Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Cymru - Ieuenctid
2008
1af Isle of Man International Youth Tour
1af Baner Prydain Fawr Pursuit 2km, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
1af Baner Prydain Fawr Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
1af Baner Prydain Fawr Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Cyclo-cross Prydain - Iau[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Switch Revealed - Sam Harrison. BBC (28 Tachwedd 2008).
  2.  10 Questions with Sam Harrison. British Cycling (19 Chwefror 2009).
  3.  A MINUTE WITH: SAM HARRISON. Cycling Weekly.
  4. 4.0 4.1  Cycle champion's £12k bike theft. BBC News (13 Mehefin 2009).
  5. 5.0 5.1  Student gears up for future success - Coleg Gwent. Fforwm (11 Chwefror 2009).
  6.  Sam Harrison. cyclingwebsite.net.



Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.