Samson (Beibl)
Cymeriad Beiblaidd yn yr Hen Destament yw Samson neu Shimshon (Hebraeg: שמשון, Šimšon). Ceir ei hanes yn Llyfr y Barnwyr, p. 13 - 16, ac hefyd yn Hynafiaethau yr Iddewon gan Josephus.
Disgrifir Samson fel gŵr o gryfder anarferol, sy'n lladd llew a'i ddwylo ac yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid, gan ladd nifer fawr ohonynt. Mae'n syrthio mewn cariad ag un o ferched y Ffilistiaid, Delilah, sy'n darganfod mai yn ei wallt y mae cyfrinach ei gryfder. Wedi iddo dorri ei wallt tra mae'n cysgu, mae'n ei fradychu i'r Ffilistiad, sy'n ei ddallu a'i gadw'n garcharor yn Gaza.
Yn ystod seremoni yn nheml y duw Dagon, arweinir Samson i mewn i'r deml. Erbyn hyn, mae ei wallt wedi tyfu eto ac mae ei nerth wedi ei adfer. Mae'n tynnu pileri'r deml i lawr a dymchwel yr adeilad, gan ei ladd ei hun a nifer fawr o'r Ffilistiaid.