Salbutamol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Salbwtamol)
Salbutamol
Enghraifft o'r canlynolcyffur hanfodol, racemate Edit this on Wikidata
Enw WHOSalbutamol edit this on wikidata
Clefydau i'w trinAsthma, clefyd rhwystrol yr ysgyfaint, clefyd y system resbiradol, niwmonia edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia a, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Yn cynnwyslevalbuterol, (S)-salbutamol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae salbutamol (a elwir hefyd yn albuterol mewn rhai gwledydd megis yr Unol Daleithiau) yn fath o feddyginiaeth. Mae'n froncoledydd. Mae hyn yn golygu ei fod yn gwneud y bronciolynnau - y tiwbiau sy'n dod ag ocsigen i'r ysgyfaint - i ehangu. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i ocsigen gyrraedd yr ysgyfaint. O'r ysgyfaint, mae ocsigen yn mynd i mewn i'r gwaed ac yn teithio i weddill y corff[1].

Enwau eraill ar gyfer salbutamol[golygu | golygu cod]

Brand Salamol o salbutamol

Mae salbutamol yn enw ar gyffur generig. Yn yr Unol Daleithiau a rhai gwledydd eraill yr enw generig yw albuterol

Mae yna lawer o enwau brand gwahanol ar gyfer salbutamol. Y mwyaf cyffredin yw Aromir, Asmasol, Salamol, Ventmax, Ventodisks a Ventolin.

Defnydd[golygu | golygu cod]

Mae salbutamol yn froncoledydd sympathomimetig sy'n cael ei ddefnyddio i drin cyflyrau megis asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a gwayw ar gyhyrau llyfn y bronci; cyflyrau lle mae'r llwybrau anadlu yn cael eu culhau[2].

Gan salbutamol ymlacio cyhyrau'r groth ac mae'n cael ei ddefnyddio weithiau i geisio rhwystro esgor cynamserol[3].

Dos[golygu | golygu cod]

Mae salbutamol ar gael fel tabledi, capsiwlau rhyddhad araf, hylif (ffisig) a phigiad ond gan amlaf mae'n cael ei weini mewn moddion i'w anadlu trwy nebiwlydd neu fewnanadlydd[4]. Y dosiau mwyaf cyffredin yw 8–16 mg y dydd mewn tabledi / ffisig; 400-800 micro gram y dydd trwy fewnanadlydd a 2.5 – 20 mg y dydd mewn nebiwlydd. Mae tabledi a ffisig yn gweithio o fewn 30 i 60 munud a rhwng 5 i 15 munud o'i anadlu.

Mae salbutamol ar gael trwy ragnodi gan feddyg neu weithiwr iechyd awdurdodedig arall yn unig yn y Deyrnas Gyfunol.

Sgil effeithiau[golygu | golygu cod]

Gall sgil effeithiau cyffredin salbutamol gynnwys:

  • anesmwythder
  • cryndod yn y cyhyrau
  • pryder / tyndra nerfol
  • cur pen

Gall sgil effeithiau llai cyffredin a mwy difrifol gynnwys:

  • cramp yn y cyhyrau
  • crychguriad y galon
  • anadlu yn mynd yn anoddach yn hytrach na mynd yn haws

Does dim tystiolaeth bod salbutamol yn creu problemau o'i ddefnyddio pan fo'r claf yn feichiog neu'n bwydo ar y fron.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. BMA New Guide to Medicine & Drugs Rhif 8 (2015) ISBN13:9780241183410 tudalen 382 salbutamol
  2. GIG Cymru Asthma Archifwyd 2017-12-30 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 20 Ionawr 2018
  3. Net Doctor Ventolin infusion (salbutamol) adalwyd 20 Ionawr 2018
  4. Web MD Bronchodilators and Asthma adalwyd 20 Ionawr 2018


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!