Safwn yn y Bwlch
| Enghraifft o: | cân Wladgarol Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1969 |
| Awdur | Glyn Roberts |
| Cyhoeddwr | Recordiau'r Dryw |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1969 |
| Cysylltir gyda | Hogia'r Wyddfa |
| Label recordio | Recordiau'r Dryw |
| Cyfansoddwr | Glyn Roberts a Richard 'Dic' Morris |
| Dynodwyr | |
Cân Wladgarol a Chenedlaetholgar gan Glyn Roberts a Richard Morris yw 'Safwn yn y Bwlch' gafodd ei chyfansoddi ar gyfer Hogia'r Wyddfa ym 1969. Rhyddhawyd y record gan Recordiau'r Dryw yn yr un flwyddyn. Nododd y grŵp yn eu cyfrol Cofio [Gwalia 1990] "fod 'Safwn yn y Bwlch' wedi dod yn anthem genedlaethol bron; 'roedd yn cael ei chanu gyda'r fath arddeliad nas gwelwyd na chynt na chwedyn".[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Gyda'r gwrthwynebiad tuag at Arwisgiad "Tywysog Cymru" yn ei anterth yng Nghymru, ar ddiwedd y 1960au, nid rhyfedd fod grwpiau pop y cyfnod wedi dewis i recordio a chanu caneuon gwladgarol yn eu hymdrech i amddiffyn eu gwlad, ac i "sefyll yn y bwlch". Daw teitl a brawddeg gyntaf y gân o araith enwog Saunders Lewis yn y ddrama Buchedd Garmon:
"Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad,
i'w thraddodi i'm plant, ac i blant fy mhlant,
yn dreftadaeth dragwyddol.
Ac wele'r moch yn rhuthro arni, i'w maeddu.
Minnau yn awr, galwaf ar fy nghyfeillion,
cyffredin ac ysgolhaig,
Deuwch ataf i'r adwy,
Sefwch gyda mi yn y bwlch,
fel y cadwer i'r oesoedd a ddel y glendid a fu."''
Rhyddhawyd y gân ym 1969 ar "record sengl" gyda'r gân ddireidus 'Bysus Bach y Wlad' ar yr ail-ochor.[1] Daeth yn bumed yn siartiau'r Herald Gymraeg ochor yn ochor gyda'r caneuon Saesneg ar y pryd, gyda 'Carlo'gan Dafydd Iwan yn hawlio'r brig.[1]
Cofia Hogia'r Wyddfa "brofiad gwefreiddiol" mewn cyngerdd yn Aberllefenni lle y bu i'r dramodydd Rhydderch Jones adrodd yr araith o ddrama Saunders Lewis, "ac yn y lle priodol ar ddiwedd yr araith" daethont i mewn i ganu'r gân. "Gwnaethant hynny yn hollol naturiol, serch nad oeddynt wedi rihyrsio yr un gair gyda'i gilydd; 'roedd y tyndra a'r effaith a grewyd yn ysgytwol." Yn dilyn hynny, bu i Rhydderch ymuno gyda'r grŵp mewn sawl cyngerdd gan ddilyn yr un patrwm.[1]
Nododd adolygydd Y Cymro [1969] fod "1969 yn flwyddyn sydd wedi rhoi canu pop Cymraeg ar y map yng Nghymru, beth bynnag. Mae llai o sôn am Tom Jones, Shirley Bassey a'r Amen Corner, a mwy am Dafydd Iwan, Tony ac Aloma, a Hogia'r Wyddfa".[1]
Geiriau
[golygu | golygu cod]Safwn yn y bwlch gyda’n gilydd yn awr
Mae Cymru ein hangen ni
Torrodd y wawr wedi’r hirnos ddu
Daeth gwawrddydd ei rhyddid hi.
Safwn yn y bwlch gyda her yn ein trem
Yn ffyddlon, yn driw iddi hi
Mae Cymru’n ein gwaed, gofalwn am hon
A mynnwn ei rhyddid hi.
Cytgan:
Gyda’n gilydd fe safwn ni
Gyda’n gilydd fe safwn ni
Dros ein hiaith, dros ein gwlad
Dros ein pobl, dros ein plant
Gyda’n gilydd fe safwn ni.
Safwn yn y bwlch gyda’n gobaith yn fflam
Mae tân yn ein calon ni
Na ildiwn ‘run fodfedd na symud ‘run cam
Cyn ennill ei rhyddid hi.
Safwn yn y bwlch ac enillwn y dydd
Ni all un peth ein rhwystro ni
Mae Cymru yn galw, ymdrechwn dros hon
Daeth gwawrddydd ei rhyddid hi.
Cytgan:
Gyda’n gilydd fe safwn ni
Gyda’n gilydd fe safwn ni
Dros ein hiaith, dros ein gwlad
Dros ein pobl, dros ein plant
Gyda’n gilydd fe safwn ni.
Gyda’n gilydd fe safwn ni
Gyda’n gilydd fe safwn ni
Dros ein hiaith, dros ein gwlad
Dros ein pobl, dros ein plant
Gyda’n gilydd fe safwn ni.
Recordiau
[golygu | golygu cod]Ers 1969, mae'r gân wedi cael ei hail-recordio ganoedd o weithiau gan amrywiol gorau, unigolion, triawdau a deuawdau trwy Gymru. Roedd hi hefyd wedi'i chynnwys ar ddiwedd y ddrama gerdd O Docyn Brwyn i Ben Draw'r Byd gafodd ei chyfansoddi gan Glyn Roberts, Annette Bryn Parri a Paul Griffiths ym 1995.