Sadwrn Barlys

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sadwrn y Barlys)

Ers y 19g mae dydd Sadwrn olaf mis Ebrill, sef Sadwrn Barlys, yn ddiwrnod gŵyl yn Aberteifi, Ceredigion.

Dyma'r diwrnod pan y byddai ffermwyr y cylch yn dod i’r dref i gyflogi gweithwyr ac archwilio meirch ar gyfer eu magu; dyma'r dydd i ddatgan bod y tir wedi'i baratoi, yr hadau yn y pridd a chyfle i'r gweision ddathlu hynny. Erbyn hyn, fodd bynnag, rhoddir mwy o sylw i'r ceffylau a gaiff eu beirniadu, cânt eu gorymdeithio drwy’r dref ynghyd â hen dractorau a beiciau modur gyda thorf yn sefyll ar hyd y strydoedd yn cymeradwyo.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Festival and Events Archifwyd 2014-04-05 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd Ebrill 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.