Sackville Trevor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sackville Trevor
Ganwyd 1567 Edit this on Wikidata
Bu farw 1633 Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Swydd Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr Edit this on Wikidata
Teulu Sion Trefor Edit this on Wikidata

Morwr Cymreig oedd Syr Sackville Trevor (c.1565-1633) ac yn frawd y gwleidydd Syr John Trevor (1563–1630). Nodir ei enw ar feddrod Sion Trevor fel Sackvil Trevor. Roedd yn frawd iau i Syr John Trefor I ac yn aelod o deulu dylanwadol y Treforiaid o Faelor, gogledd-ddwyrain Cymru.

Gweinydd yn y Llynges, a gwleidydd oedd ei dad, John Trefor, a noddwyd gan deulu'r Sackville; fel cydnabyddiaeth o'u haelioni y rhoddwyd iddo'r enw hwnnw. Derbyniodd yntau gyfran yn nawdd Howard o Effingham a thrwy ddylanwad hwnnw cafodd fod yn gapten llong ar ôl llong yn ymgyrchoedd 1596-1603, a llwyddodd i gipio pedair o longau Sbaenaidd yn llawn o nwyddau gwerthfawr. Urddwyd ef yn farchog gan Iago I yn Chatham yn 1604 (4 Gorffennaf), ac yn 1623 cafodd ei anfon gan y brenin ar y llynges a oedd yn gwarchod y llong yr aeth y tywysog Siarl arni i Sbaen; llwyddodd i achub Siarl rhag boddi yn y porthladd.

Priododd â gweddw Syr Henry Bagnall, cadlywydd Iwerddon; lladdwyd Bagnall yn Blackwater yn 1598. Bu Syr Sackville yn byw gyda'i wraig ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, ystad a ddaeth i'r Bagnaliaid trwy briodas â theulu Griffith (y Penrhyn), ac etholwyd ef dros yr ynys yn Senedd gyntaf Siarl I. Roedd yn un o'r rhai a aeth â phetisiwn y Piwritaniaid i'r brenin ar 8 Gorffennaf 1625. Y flwyddyn ddilynol rhoddwyd i'w ofal llong 30 tunnell - i fod yn barod i wasnaethu yn y rhyfel yn erbyn Sbaen yr oeddid yn ei ailgychwyn.[1]

Ym mis Mehefin 1627 yr oedd yn un o'r ychydig a enillodd glod yn y cyrch a wnaethpwyd i geisio rhyddhau yr Huguenotiaid yn La Rochelle , ac ym mis Medi ef a arweiniai y llongau rhyfel a osododd rwystr ar enau afon Elbe er mwyn cynorthwyo y milwyr a anfonwyd o dan Syr Charles Morgan i helpu brenin Denmarc . Hyd y flwyddyn 1634 ymgynghorid ag ef yn fynych ar gwestiynau megis cael dynion i'r llynges ac adeiladu llongau. Roedd yn perthyn i James Howell ac yn un o'i ohebwyr.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.