Sachertorte

Oddi ar Wicipedia
Sachertorte DSC03027 retouched.jpg
Sachertort

Math arbennig o gacen siocled, neu torte, gafodd ei dyfeisio gan yr Awstriad Franz Sacher[1] yn 1832 ar gyfer y Tywysog Wenzel von Metternich yn Fienna, Awstria, yw sachertorte.[2] Mae'n un o'r bwydydd enwocaf sy'n dod o Fienna.[3] Rhagfyr 5ed yw Diwrnod Sachertorte Cenedlaethol yn Unol Daleithiau America.[4]

Mae sachertorte yn gacen siocled ddwys gyda haen denau o jam bricyll ar ei phen, wedi'i gorchuddio ag eisin siocled tywyll ar ei phen a'i hochrau. Yn draddodiadol, mae'n cael ei bwyta gyda hufen wedi'i chwipio ond heb ei felysu.[5] [6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gerber, Louis. "Hotel Sacher Vienna". www.cosmopolis.ch.
  2. Bell, Bethany (31 Mai 2007). "Happy Birthday, cake". Newyddion BBC. Cyrchwyd 2007-05-31. It was created by chance one day in 1832 when the chef to the chancellor, Prince Wensel Metternich, suddenly fell ill. His 16-year-old apprentice, Franz Sacher, was called in to create a dessert that would not disgrace the prince and the Sachertorte was born.
  3. "Sachertorte". VIENNA – Now. Forever. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-01. Cyrchwyd 2018-11-27.
  4. "National Sacher Torte Day". nationaldaycalendar.com. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2018.
  5. "Original Sacher-Torte". 3 Tachwedd 2015.
  6. Original Sachertorte (Almaeneg)