Ryan a Ronnie (cyfrol)

Oddi ar Wicipedia
Ryan a Ronnie
AwdurHywel Gwynfryn
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781848514324
GenreCofiannau Cymraeg

Cyfrol hanesyddol gan Hywel Gwynfryn yw Ryan a Ronnie a gyhoeddwyd yn 2013 gan Wasg Gomer. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[1]

Hanes un o ddeuawdau enwocaf Cymru, Ryan a Ronnie, gan y darlledwr Hywel Gwynfryn. Yn y gyfrol ddadlennol hon, cawn gip y tu ôl i'r llenni ar fywydau'r ddau a gymharwyd â Morecambe a Wise a'r Ddau Ronnie, ond a oedd, yn y pen draw, yn neb llai na nhw eu hunain.


Daw Hywel Gwynfryn o Ynys Môn yn wreiddiol.• Mae ganddo ddiddordeb mawr ym myd adloniant Cymru •a chafodd yrfa hir ym myd darlledu ar y radio a'r teledu. Bu'n darlledu gyda'i raglen Helo Bobol ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer ac ar un adeg, ei uchelgais oedd cyfweld â phawb oedd yn siarad Cymraeg yng Nghymru•.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.