Ryan Kift

Oddi ar Wicipedia
Ryan Kift
Ganwyd1977 Edit this on Wikidata
Llanrug Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Cerddor, cyfarwyddwr ac actor o Gymro yw Ryan Kift (ganwyd 1977). Fe'i magwyd yn Llanrug.

Mae Ryan yn gerddor llawn amser, ac yn perfformio gyda Sian Davies. Mae'n gyn aelod o'r band Something Personal.[1]

Dros y blynyddoedd mae wedi rhyddhau sawl sengl ac albymau - gan gynnwys Ar Goll (2005), Mynd i'r Jêl (2006), ac Amsterdam (2008) - a recordio nifer o sesiynau i C2.

Ymddangosodd y gân Gola Ola o'r albwm Mynd i'r Jêl ar albwm amlwgyfrannog Huw Stephens Dan y Cownter 2.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Ar Goll (2005)
  • Mynd i'r Jêl (2006)
  • Amsterdam (2008)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Uned 5 - Ryan Kift. Uned 5, S4C.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]