Ryan Coogler

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ryan Coogler
Ryan Coogler by Gage Skidmore.jpg
Coogler yn 2016
Ganwyd (1986-05-23) 23 Mai 1986 (33 oed)
Oakland, Califfornia, Yr Unol Daleithiau
Enwau eraillRyan Kyle Coogler
Yn enwog amCreed, Black Panther
GalwedigaethCyfarwyddwr, sgriptiwr

Mae Ryan Kyle Coogler (ganed 23 Mai 1986)[1] yn gyfarwyddwr a sgriptiwr ffilm Americanaidd. Enillodd ei ffilm gyntaf, Fruitvale Station (2013), y gwobrau gorau o'r gynulleidfa a'r uchel reithgor yng nghystadleuaeth ddramatig yr Unol Daleithiau yn yr Ŵyl Ffilmiau Sundance 2013.[2] Ers hynny, mae wedi cyd-sgriptio a chyfarwyddo'r seithfed ffilm yn y gyfres ffilmiau Rocky, Creed (2015) a ffilm y Bydysawd Sinematig Marvel Black Panther (2018).

Cydweithia'n gyson gyda'r actor Michael B. Jordan, sydd wedi ymddangos ym mhob o'i ffilmiau.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]