Neidio i'r cynnwys

Rudolph Valentino

Oddi ar Wicipedia
Rudolph Valentino
FfugenwRudolph Valentino Edit this on Wikidata
GanwydRodolfo Alfonso Raffaello Pietro Filiberto Guglielmi di Valentino d`Antoniolla Edit this on Wikidata
6 Mai 1895 Edit this on Wikidata
Castellaneta Edit this on Wikidata
Bu farw23 Awst 1926 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, dawnsiwr Edit this on Wikidata
Taldra180 centimetr Edit this on Wikidata
PriodNatacha Rambova, Jean Acker Edit this on Wikidata
Gwobr/auSeren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Actor ffilm o'r Eidal a ymsefydlodd yn yr Unol Daleithiau oedd Rodolfo Pietro Filiberto Raffaello Guglielmi di Valentina d'Antonguella (6 Mai 189523 Awst 1926), a adnabyddir yn broffesiynol fel Rudolph Valentino. Roedd yn seren mawr mewn sawl ffilm Americanaidd yn oes ffilmiau mud, gan gynnwys The Sheik (1921), Blood and Sand (1922), a The Son of The Sheik (1926).

Fe'i ganwyd yn Castellaneta, Puglia, yr Eidal. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1913 yn 18 oed. Gweithiodd fel partner dawns proffesiynol yn Efrog Newydd ac yn ddiweddarach yn Los Angeles, ynghyd â chwarae ychydig o rolau ar y llwyfan. Dechreuodd ymddangos fel actor cynhaliol mewn ffilmiau yn 1917. Ei lwyddiant mawr cyntaf oedd The Four Horsemen of the Apocalypse (1921). Yn ystod y pum mlynedd nesaf roedd yn un o brif sêr Hollywood, daeth yn eicon rhyw gyda llu o gefnogwyr benywaidd.

Ni chafodd Valentino fyw'n ddigon hir i weld ffilmiau gyda sain yn disodli ffilmiau mud. Tra'n aros yn Efrog Newydd, aeth yn sâl ar 15 Awst 1936, gan ddioddef o briwiau'r stumog. Cafodd lawdriniaeth, ond datblygodd peritonitis a sepsis a bu farw ar y 23ain yn 31 oed. Denodd ei angladd yn Efrog Newydd sylw mawr. Safai 100,000 o bobl mewn rhes ar hyd strydoedd Manhattan. Roedd golygfeydd o hysteria a ffanatigiaeth. Priodolwyd nifer o hunanladdiadau y diwrnod hwnnw i'w farwolaeth. Aethpwyd â'i gorff ar drên i Galiffornia, ac ar ôl ail angladd yno, fe'i claddwyd mewn mynwent yn Hollywood.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Ellenberger, Allan R., The Valentino Mystique: The Death and Afterlife of the Silent Film Idol (Jefferson, NC: McFarland, 2005)
  • Leider, Emily Wortis, Dark Lover: The Life and Death of Rudolph Valentino (Llundain: Faber, 2003)
  • Rambova, Natacha, Rudy: An Intimate Portrait of Rudolph Valentino (Llundain: Hutchinson, 1926)