Rudolf Hilferding
Rudolf Hilferding | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
10 Awst 1877 ![]() Fienna ![]() |
Bu farw |
11 Chwefror 1941 ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth |
Awstria, Ymerodraeth yr Almaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
economegydd, gwleidydd, ysgrifennwr, meddyg ![]() |
Swydd |
aelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, Q104177022, Q104177022 ![]() |
Adnabyddus am |
Finance Capital ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Sosialaidd Ddemocrataidd Annibynnol yr Almaen, Plaid Ddemocrataidd, Sosialaidd Awstria ![]() |
Priod |
Margarete Hilferding ![]() |
Plant |
Peter Milford-Hilferding, Karl Hilferding ![]() |
Gwleidydd Awstriaidd-Almaenig oedd Rudolf Hilferding (10 Awst 1877 – Chwefror 1941) a oedd yn un o ladmeryddion Awstro-Farcsiaeth. Gwasanaethodd yn swydd gweinidog ariannol yr Almaen ym 1923 ac ym 1928.
Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, i deulu Iddewig rhyddfrydol. Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Fienna, ac yno cyfarfu â nifer o sosialwyr a Marcswyr, gan gynnwys Otto Bauer, Karl Kautsky, ac August Bebel. Ym 1906 cafodd Hilferding waith mewn ysgol hyfforddi dan nawdd Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen (SPD) ym Merlin.[1]
Hilferding oedd awdur y gyfrol gyntaf – Böhm-Bawerks Marx-Kritik (1904) – yng nghyfres Marx Studien (1904–22) yr Awstro-Farcswyr. Ei brif waith yw Das Finanzkapital (1910), sydd yn trafod rôl y bancwyr a'r arianwyr mewn imperialaeth economaidd a rhyfel. Hilferding oedd golygydd gwleidyddol Vorwärts, prif gylchgrawn yr SPD, o 1907 i 1915. Cafodd ei alw i'r fyddin Awstriaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwasanaethodd yn feddyg ar ffrynt yr Alpau. Derbyniodd ddinasyddiaeth Almaenig ym 1920. Am gyfnod bu'n olygydd Die Freiheit, cylchgrawn y Democratiaid Cymdeithasol Annibynnol.[1]
Gwasanaethodd yn ddirprwy yn y Reichstag o 1924 nes i Adolf Hitler esgyn i rym ym 1933. Ffoes Hilferding o'r Almaen Natsïaidd, ac ym 1934 sefydlodd gynllun ar gyfer sosialwyr Almaenig alltud.[1] Cafodd ei arestio gan awdurdodau Vichy ym 1940 a'i drosglwyddo i'r Gestapo. Bu farw yn y ddalfa ym Mharis yn 63 oed.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Rudolf Hilferding. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Hydref 2020.
- Articles with missing Wikidata information
- Awstriaid Iddewig
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Fienna
- Genedigaethau 1877
- Gweinidogion ariannol
- Gwleidyddion Almaenig yr 20fed ganrif
- Gwleidyddion Marcsaidd
- Llenorion Awstriaidd yr 20fed ganrif
- Marcswyr Almaenig
- Marcswyr Awstriaidd
- Marwolaethau 1941
- Pobl o Fienna
- Ysgolheigion Awstriaidd yn yr iaith Almaeneg