Rosetta Pampanini

Oddi ar Wicipedia
Rosetta Pampanini
LlaisColumbia-d14530-bx533.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd2 Medi 1896 Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
Bu farw2 Awst 1973 Edit this on Wikidata
Corbola Edit this on Wikidata
Label recordioFonotipia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

Roedd Rosetta Pampanini (2 Medi 1896 - 2 Awst 1973) yn soprano Eidalaidd. Roedd hi'n cael ei chysylltu yn arbennig â rolau Puccini, yn enwedig Madama Butterfly.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Pampanini ym Milan.[2] Dechreuodd ganu pan oedd yn blentyn, ac yn ddiweddarach astudiodd gydag Emma Malajoli. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y llwyfan ym 1920, yn y Teatro Nazionale yn Rhufain, fel Micaela yn Carmen gan Georges Bizet, ac yn Turin ym 1921, fel Siebel yn Faust gan Charles Gounod. Ar ôl astudiaethau pellach, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Teatro San Carlo yn Napoli, fel Desdemona yn Otello gan Giuseppe Verdi ym 1923. Y flwyddyn ganlynol canodd rhan Elsa yn Lohengrin gan Richard Wagner yn Bergamo. Wedi cael ei gweld gan yr arweinydd Arturo Toscanini, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Teatro alla Scala ym Milan, fel Madama Butterfly, ym 1925, ac ymddangosodd yno tan 1937.[3]

Wedi hynny dechreuodd ganu yn holl brif dai opera Ewrop; Opera Monte Carlo ym 1927, y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain, rhwng 1928 a 1933, y Liceu yn Barcelona ac Opera Taleithiol Fienna ym 1930, Opera Lyric Chicago rhwng 1931 a 1932, a'r Paris Opéra ym 1935. Ymddangosodd hefyd yn Buenos Aires a Rio de Janeiro.[4]

Yn ddehonglydd Puccini arbennig, yn enwedig fel Madama Butterfly, canodd hefyd Manon Lescaut, La bohème, Tosca, a Liu yn Turandot,[5] hefyd Il piccolo Marat ac Iris Mascagni, a Nedda yn Pagliacci gan Leoncavallo. Er mai soprano delynegol ydoedd yn y bôn, roedd hi'n ganu ychydig o rolau spinto gan Verdi fel Leonora yn ei opera Il trovatore a rôl y teitl yn ei opera Aida, a hefyd Maddalena yn Andrea Chénier a rôl y teitl yn Fedora y ddau yn operâu gan Umberto Giordano.

Personol[golygu | golygu cod]

Ymddeolodd o'r llwyfan ym 1946, a throdd at ddysgu. Ymhlith ei disgyblion roedd y soprano Seisnig Amy Shuard. Bu farw Pampanini yn Rovigo, yn 76 oed.[6]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Le guide de l'opéra, les indispensables de la musique, R. Mancini & JJ. Rouvereux, (Fayard, 1986)ISBN 2-213-01563-5

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Celletti, R. (2008). Pampanini, Rosetta. The Grove Book of Opera Singers. : Oxford University Press. mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus adalwyd 26 Chwefror 2021
  2. "PAMPANINI, Rosetta in "Dizionario Biografico"". www.treccani.it (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2021-02-26.
  3. M. Tiberi, La voce e l’arte di Rosetta Pampanini, Roma [1998]
  4. Arakelyan, Ashot (2014-07-08). "FORGOTTEN OPERA SINGERS : Rosetta Pampanini (Soprano) (Milano 1896 - Corbola 1973)". FORGOTTEN OPERA SINGERS. Cyrchwyd 2021-02-26.
  5. "Rosetta Pampanini (1896-1973) Review". Gramophone. Cyrchwyd 2021-02-26.
  6. "Rosetta Pampanini (1896-1973) - Find A Grave..." www.findagrave.com. Cyrchwyd 2021-02-26.