Rosemary Coogan
| Rosemary Coogan | |
|---|---|
| Ganwyd | 1991 Belffast |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | astroffisegydd, gofodwr |
| Cyflogwr | |
Mae Rosemary Theresa Coogan (ganwyd 1991) yn astroffisegydd a gofodwr o Ogledd Iwerddon. Mae ei hymchwil yn cynnwys esblygiad galaethau a thelesgopiau gofod.
Bywyd Cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd hi yn Belffast, ac astudiodd yn Ysgol Uwchradd Brighton a Hove, sef Brighton Girls bellach.[1] O oedran ifanc, roedd hi'n rhan o hyfforddiant y fyddin, lle hyfforddodd fel petty officer gyda Chadetiaid y Môr. Yn 2009, ymunodd â HMS Calliope a HMS Example, lle roedd hi'n officer cadet. Yn hwyrach, dyrchafwyd hi'n Midshipman gyda'r Royal Navy Reserve.
Astudiodd Coogan ei gradd israddedig mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Durham, gan raddio yn 2013. Arhosodd yn Durham i wneud gradd meistr mewn seryddiaeth pelydrau gama gyda Paula Chadwick. Mae ganddi ddwy radd meistr o'r brifysgol.[2]
Yn 2019, derbyniodd ddoethuriaeth gan Brifysgol Sussex.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 2022, curodd Coogan 22,500 ymgeisydd arall i gael un o'r chwe lle ar raglen hyfforddi gofodwyr newydd yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA), a graddiodd ar 22 Ebrill 2024.[3] Mae'n gobeithio dilyn ôl-traed Helen Sharman a Tim Peake a'r 7 o bobl eraill o wledydd Prydain sydd wedi teithio i'r gofod. Bydd yr ESA yn chwilio am gyfleon i Coogan a'i chyd-ofodwyr deithio i'r Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS) erbyn 2030.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Brighton astronaut graduates from space academy". Brighton and Hove News (yn Saesneg). 22 Ebrill 2022. Cyrchwyd 14 Mai 2025.
- ↑ "Rosemary Coogan". www.esa.int (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Mai 2025.
- ↑ University, Durham. "Rosemary Coogan ESA astronaut - Durham University". www.durham.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Mai 2025.
- ↑ Parsonson, Andrew (2024-05-22). "ESA's New Astronaut Class Gets Its First Crew Assignments". European Spaceflight (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-05-27.