Rosalind Lloyd
| Rosalind Lloyd | |
|---|---|
Rosalind gyda Dewi Pws ym y pantomeim Mawredd Mawr | |
| Ffugenw | Ros |
| Ganwyd | Rosalind Lloyd 17 Gorffennaf 1947 Llanbedr Pont Steffan |
| Dinasyddiaeth | Cymraes |
| Galwedigaeth | cantores, cerddor ac actores |
| Cysylltir gyda | Rosalind a Myrddin |
Un hanner o'r ddeuawd boblogaidd Rosalind a Myrddin yw'r gantores a'r cerddor Rosalind Lloyd neu Rosalind Owen (ganed 17 Gorffennaf 1947). Cyn iddi gwrdd â'i gŵr Myrddin Owen, gwnaeth enw iddi'i hun fel artist unigol ac aelod o'r grŵp Y Perlau. Ymddangosodd ar y gyfres boblogaidd Opportunity Knocks yn y 1970au a bu'n cyd-gyflwyno'r gyfres Sion a Siân gyda Dai Jones ar S4C. Teithiodd y byd yng nghwmni ei gŵr ac aelodau eraill o Hogia'r Wyddfa, gan ddiddanu'r gynulleidfa gyda'r delyn a'r gitâr. Fe'i hadnabu hefyd fel "Telynores Dulas".[1] Bu'n rhan o sawl cynhyrchiad ar lwyfan gyda Cwmni Theatr Cymru fel y pantomeim Mawredd Mawr yn ogystal â cynhyrchiadau o ddramâu cerdd Gŵyl Fai Pwllheli, lle bu'n byw am nifer o flynyddoedd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Rosalind yn Llanbedr Pont Steffan yn ferch i John a Muriel Lloyd. Fe'i magwyd ar aelwyd gerddorol.
Roedd ei thadcu yn gerddor, yn arweinydd partïon a chymanfaoedd ac yn meddu ar lais tenor hyfryd. Roedd ei mam yn athrawes piano ac yn gantores adnabyddus yn ei dydd, yn gystadleydd cyson ynghyd â’i chwaer mewn eisteddfodau led led y canolbarth.[2]
Ymunodd â’r Urdd a Chlwb Ffermwyr Ieuanc Felinfach, pryd y cafodd gyfle i ganu fel unigolyn, fel un o ddeuawd, ac fel aelod o bartïon a chorau. Roedd y capel yn fan pwysig i’w theulu ac i Rosalind ac yno y cafodd brofiadau ychwanegol yn y maes canu a diddori.[2]
Bu'n gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr, ac yn ddiweddarach yn siop ei rhieni, lle y cafodd fwy eto o ryddid i ymarfer ei dawn gerddorol ar y piano a’r delyn a chanu cerdd dant. Ymunodd â Chôr Coleg Dewi Sant, Llambed.[2]
Erbyn y 1970au, roedd Rosalind yn ddigon hyderus i wynebu sialensau heriol fel unawdydd. Mentrodd gystadlu ar y rhaglen boblogaidd, Opportunity Knocks, a llwyddo i ennill sawl tro a hynny drwy ganu yn y Gymraeg.[2] Yn dilyn y llwyddiant, daeth cyfleoedd i’w rhan ar raglenni HTV Cymru a’r BBC. Bu'n cyd-gyflwyno'r rhaglen boblogaidd Sion a Siân gyda Dai Jones.
Cyhoeddwyd ei record gyntaf fel unigolyn Llais swynol Rosalind Lloyd ym 1970 gyda Recordiau Cambrian.[1] Roedd y record honno yn cynnwys 4 cân wedi'u cyfansoddi gan Rosalind a'i mam.[1]
Bu'n perfformio ar lwyfannau a'r sgrin deledu yng Nghymru gyda enwogion y cyfnod megis Tony ac Aloma, Hogia'r Wyddfa, Doreen Lewis, Emyr ac Elwyn, Beryl Hall, Hogia Llandegai, Dafydd Iwan a Dewi Pws Morris.
Mae'n briod gyda Myrddin Owen ers 1972 ac mae ganddynt un mab, Deian.[1]
Recordiau
[golygu | golygu cod](detholiad)

Gyda Y Perlau
- Y Perlau (Cambrian 1968)
Fel unigolyn[3]
- Llais Swynol Rosalind Lloyd (Cambrian 1970)
- Ond I Ti Fy / Ora Pro Nobis (Phoenix 1970)
- Hen Gyfrinach / O mae'r wawr ar ddod (Cambrian 1971)
- Rosalind Lloyd (Recordiau'r Dryw)
- Rhannu'r hen gyfrinachau 1965-1975 (2018) - un gân
- Cardis ar Gân - deuawd gyda Doreen Lewis (2021) un gân
- Rosalind a Myrddin (1978)
- Dau Fel Un
- Cofio o Hyd (1984)
- Cyngerdd y Sêr
- Dan Hwyl Wen (1996)
- Dan Gysgod y Graig (1997)
- Ail-Godi'r Llen (2005)
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Record Rosalind Lloyd. Cambrian. 1970.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Rosalind a Myrddin | Celebrities | Cyngor Tref Pwllheli Town Council". cyngortrefpwllheli.cymru. Cyrchwyd 2025-09-18.
- ↑ "Rosalind Lloyd". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-18.