Rosalind Elias

Oddi ar Wicipedia
Rosalind Elias
Rosalind Elias yn Carmen
Ganwyd13 Mawrth 1930 Edit this on Wikidata
Lowell, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mai 2020 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Accademia Nazionale di Santa Cecilia
  • Ysgol Uwchradd Lowell Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, canwr Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata

Mae Rosalind Elias (ganwyd 13 Mawrth 1929) yn ganwr opera Americanaidd. Cafodd gyrfa hir a chlodfawr fel mezzo-soprano yn y Metropolitan Opera, Dinas Efrog Newydd.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganed Rosalind Elias yn Lowell, Massachusetts,[2] y 13eg a'r plentyn ieuengaf o deulu o Americanaid gyda'i gwreiddiau yn Libanus. Derbyniodd ei gwersi canu cyntaf yn Lowell gan Miss Lillian Sullivan. Astudiodd yn y New England Conservatory. Ymddangosodd gyda New England Opera o 1948 i 1952. Yna, aeth i'r Eidal i gwblhau ei hastudiaethau lleisiol yn Accademia Nazionale di Santa Cecilia yn Rhufain, gyda Luigi Ricci a Nazzareno De Angelis.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gwnaeth ei début yn y Metropolitan Opera fel Grimgerde yn Die Walküre gan Wagner, ar 23 Chwefror, 1954. Bu iddi ganu 687 perfformiad o 54 rôl yno, gan gynnwys:[4]

Creodd rôl Erika yn opera Samuel Barber, Vanessa, ar 15 Ionawr, 1958, a rôl Charmian yn Antony a Cleopatra gan yr un cyfansoddwr, ar gyfer agor Tŷ Opera Metropolitan newydd yn y Lincoln Centre, ar 16 Medi, 1966.[5]

Perfformiodd Elias dramor hefyd, yn arbennig fel La Cenerentola gyda Opera cenedlaethol yr Alban ym 1970, fel Carmen yn Opera Fienna ym 1972, ac fel Baba y Twc yn The Rake's Progress Igor Stravinsky yn Ngŵyl Glyndebourne ym 1975.

Bu Elias yn chware rôl yr Hen Farwnes yn Vanessa, Samuel Barber. Gan berfformio'r gwaith am y tro cyntaf yn Opéra de Monte-Carlo, a Los Angeles Opera yn 2004 ac yn Opera Dinas Efrog Newydd yn 2007.

Chwaraeodd Elias rôl "Heidi Schiller" mewn adfywiad o sioe gerdd James Goldman a Stephen Sondheim Follies, yng nghanolfan John F. Kennedy yn 2011. Fe wnaeth ei début ar Broadway yn 82 mlwydd oed pan symudodd y sioe gerdd yno rhwng Awst 2011 a Ionawr, 2012.[6]

Recordio[golygu | golygu cod]

Ym myd darlledu byw, enillodd perfformiad Elias fel Bathsheba o dan arweiniad Alfredo Antonini ar gyfer opera CBS o opera Ezra Laderman a David Wept, ganmoliaeth feirniadol i Ellias ym 1971

Gwnaeth nifer o recordiadau, gan gynnwys Cherubino yn Le nozze di Figaro o dan Erich Leinsdorf, Preziosilla yn La forza del destino a Laura yn La Gioconda, gyferbyn â Zinka Milanov, Giuseppe Di Stefano a Leonard Warren. Recordiodd Suzuki yn Madama Butterfly ddwywaith, yn gyntaf gyferbyn ag Anna Moffo ym 1957, ac yna gyferbyn â Leontyne Price ym 1962. Recordiodd Azucena yn Il trovatore gyferbyn â Leontyne Price, Richard Tucker a Giorgio Tozzi, yn ogystal â Maddalena yn Rigoletto, Meg Page yn Falstaff (dan Georg Solti ym 1963) a Judith yng Nghastell Bluebeard's Bartók. Hi oedd yr unawdydd mezzo / contralto mewn cyngherddau fel Roméo et Juliette Berlioz ac Offeren Dros y Meirw Verdi. Enillodd recordiad Figaro o dan Leinsdorf wobr Grammy am y Recordiad Clasurol Gorau, Cast Opera neu Choral, yn yr Ail Wobrau Grammy Blynyddol ym 1959.[7]

Ar 7 Ebrill, 2019 derbyniodd gwobr am gyfraniad arbennig yng Ngwobrau blynyddol Opera News yn Efrog Newydd.[4][8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]